Mae’n bosib fod yr hacwyr oedd wedi targedu Prifysgol Aberystwyth wedi targedu cwmni’r Wallich hefyd.

Yn ôl e-bost, sydd wedi’i gweld gan golwg360, mae’r cwmni hefyd yn cyfeirio at ddatgelu enwau a chyfeiriadau e-bost cwsmeriaid, mewn neges debyg iawn i’r un gafodd ei hanfon at gyn-fyfyrwyr y brifysgol.

Yn ôl y Wallich, maen nhw wedi datrys y sefyllfa, ac maen nhw’n dweud nad oes rheswm i gredu y bydd unrhyw wybodaeth, nad oedd yn cynnwys manylion banc, yn cael ei chamddefnyddio.

Yn ôl yr e-bost, cafodd systemau wrth gefn y cwmni eu targedu, yn yr un modd â systemau’r brifysgol, ac mae’n bosib fod copi wedi’i greu o fanylion personol.

Mae’r Wallich hefyd wedi ymddiheuro am y digwyddiad, gan ddweud nad oes angen i gwsmeriaid wneud unrhyw beth pellach heblaw bod yn wyliadwrus ac adrodd am unrhyw drafferthion wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.