Mae Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, wedi gofyn i’r gwefannau cymdeithasol Twitter ac Instagram pam iddyn nhw gymryd cyhyd cyn gwahardd y rapiwr Wiley am sylwadau gwrth-Semitaidd.

Dywed fod y negeseuon yn “ffiaidd” ac na ddylen nhw fod wedi aros ar y gwefannau cyhyd cyn cael eu dileu.

Mae’r heddlu hefyd wedi cadarnhau eu bod nhw’n cynnal ymchwiliad i’r sylwadau ar gyfrifon ar y ddwy wefan.

Cafodd ei wahardd gan Twitter am rai oriau’n unig cyn cael gwaharddiad saith diwrnod y diwrnod canlynol, ac fe gafodd ei ddiswyddo gan ei gwmni rheoli yn sgil honiadau’n ymwneud â gwrth-Semitiaeth.

Fe wnaeth e herio Iddewon mewn fideo ar Instagram hefyd.

Mae Facebook yn berchen ar Instagram erbyn hyn.

Mae’r ddwy wefan wedi bod dan y lach dipyn dros yr wythnosau diwethaf, ac mae arbenigwyr yn galw am weithredu yn eu herbyn hyd nes y byddan nhw’n ymdrin yn llawn â’r sefyllfa.

Mae ymgyrchwyr hefyd yn galw am dynnu MBE Wiley oddi arno.