Gyda 100 yn unig o ddiwrnodau cyn etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, mae mwy o Americanwyr nag erioed o’r blaen yn ystod cyfnod Donald Trump wrth y llyw yn dweud bod y wlad yn symud i’r cyfeiriad anghywir.

Wrth drafod y coronafeirws, 32% yn unig sy’n dweud ei fod e wedi ymdrin â’r feirws yn y modd cywir, a hynny ar ôl misoedd o wfftio’r pandemig ac anwybyddu nifer o gyfyngiadau mewn sawl talaith er ei fod e bellach yn dweud y bydd y sefyllfa’n gwaethygu cyn gwella.

Ar ôl wfftio’r cyngor i wisgo mygydau mewn llefydd cyhoeddus ers cryn amser, mae e bellach yn dweud y dylid gwneud hynny.

Ac mae ei boblogrwydd wedi gostwng o ran yr economi erbyn hyn hefyd.

Ymateb Joe Biden a’r Democratiaid

Mae tîm ymgyrchu Joe Biden yn hyderus y gallan nhw ennill yr etholiad pe bai’r patrwm presennol yn parhau.

“Mae pobol wedi syrffedu o gael llywodraeth sy’n rhanedig ac yn methu gwneud dim,” meddai Kate Bedingfield, dirprwy reolwr ymgyrch Joe Biden.

“Yr hyn mae pobol yn teimlo maen nhw’n ei gael gan Trump ar hyn o bryd yw cymysgwch o siarad gwleidyddiaeth hunanfuddiol.”

Mae Joe Biden, yn y cyfamser, wedi llwyddo i uno’r Democratiaid mewn modd na lwyddodd Hillary Clinton i wneud.

Mae e wedi llwyddo i ddenu noddwyr, yn wahanol i’w ymgyrch arlywyddol ddiwethaf, gan wario cryn dipyn o arian ar hysbysebion mewn taleithiau ymylol a rhai taleithiau lle gall y Democratiaid ennill tir allweddol.

Mae disgwyl i Joe Biden ennill cefnogaeth cryn dipyn o’r 75% sy’n cefnogi gwisgo mygydau mewn llefydd cyhoeddus ac fe allai cynlluniau i agor ysgolion eto erbyn mis Medi fod yn wrthgynhyrchiol i Donald Trump.

Mae’r ffaith nad yw’r ymgeiswyr wedi gallu teithio yn ystod ymlediad y coronafeirws hefyd yn debygol o fod o fantais i Joe Biden, gan fod Donald Trump yn dibynnu ar ralïau mawr mewn stadiymau a neuaddau mawr, ond dydy’r rheiny ddim yn gallu cael eu defnyddio ar hyn o bryd.

Mae Joe Biden, yn y cyfamser, yn fwy cyfforddus yn siarad â grwpiau bach o bobol, ac mae e wedi cynnal sawl sesiwn yn agos i’w gartref yn Delaware.