Mae Llywodraeth Sbaen yn dweud nad “ymarfer gwleidyddol” yw sefyllfa’r cwarantîn sydd wedi’i gyflwyno wrth deithio i Brydain.

Maen nhw’n dweud na fydden nhw’n dial ar Brydain pe baen nhw’n cyflwyno’u cwarantîn eu hunain, ond dydyn nhw ddim wedi cadarnhau eto a fydd hynny’n digwydd.

“Byddwn ni’n cymryd camau ar sail data epidemiolegol,” meddai un o weinidogion y llywodraeth, Arancha Gonzalez Laya.

“Ymarfer yw hwn i warchod iechyd a diogelwch ein trigolion – Sbaenwyr yn ogystal â thwristiaid sydd wrth eu boddau’n dod i Sbaen ac yr ydym yn gobeithio y byddan nhw’n parhau i ddod i Sbaen, oherwydd mae Sbaen yn wlad ddiogel.”

Ynysoedd Balearaidd a’r Ynysoedd Dedwydd

Mae Llywodraeth Sbaen yn gobeithio eithrio’r Ynysoedd Balearaidd a’r Ynysoedd Dedwydd o restr cwarantîn Prydain, meddai.

Mae’n dweud bod dau reswm, sef mai ynysoedd diogel ydyn nhw a bod y data epidemiolegol yn galonogol iawn ac yn is o lawer na lefelau Prydain.

O fewn Sbaen, mae’r llywodraeth yn hyderus bod pob clwstwr o’r haint dan reolaeth erbyn hyn.

Mae tri chlwstwr, meddai, ac un o’r rheiny yng Nghatalwnia, ac mae camau priodol wedi cael eu cymryd er mwyn atal yr haint rhag lledu ymhellach.