Mae Paschal Donohoe, Gweinidog Cyllid Iwerddon, wedi amddiffyn penderfyniad y llywodraeth i roi codiad cyflog o fwy nag 16,000 Ewro i is-weinidog, ond mae’n cyfaddef ei fod yn deall teimladau’r Gwyddelod sydd wedi’u cythruddo.

Mae gan ddau is-weinidog yr hawl i gael codiad o 16,888 Ewro ar eu cyflogau blynyddol o 124,439 Ewro.

Mae gan y llywodraeth dri is-weinidog ar hyn o bryd – Hildegarde Naughton, Jack Chambers a Pippa Hackett.

Dywedodd fod y tri wedi cael codiad cyflog er mwyn sicrhau eu bod nhw i gyd yn derbyn yr un swm o arian am waith tebyg.

“Galla i ddeall yn llwyr fod hyn wedi gwneud rhai pobol yn grac,” meddai wrth Newstalk.

“Hoffwn ddweud hefyd ein bod ni’n gwneud hynny yn ystod wythnos pan gyhoeddon ni gynllun i roi hwb o bum biliwn Ewro i’r economi, fe wnaethon ni ymestyn y cynllun ariannu cyflogau tan y flwyddyn nesaf ac fe wnaethon ni newidiadau i daliadau diweithdra’r pandemig dros gyfnod hir o amser.

“Roedden ni’n ymdrin â mater penodol.

“Mae gyda ni nifer o weinidogion y wladwriaeth o amgylch bwrdd y Cabinet oedd yn cael eu talu’n wahanol ac roedden ni’n ceisio cyrraedd y fan lle, os oedden nhw’n gwneud yr un gwaith, roedden nhw’n cael eu talu’r un swm.”

Ymhlith y rhai sy’n beirniadu’r cynllun mae Pearse Doherty o Sinn Fein, sy’n dweud ei bod hi’n annheg na fydd gweithwyr iechyd ar y rheng flaen yn derbyn codiad cyflog.