Mae 450 o swyddi yn y fantol yng Nghasnewydd wedi i un o gyflogwyr mwyaf y dref, gwesty’r Celtic Manor, gyhoeddi eu bod yn bwriadu cael gwared ar 450 o swyddi.
Syr Terry Matthews, biliynydd cyntaf Cymru sydd yn berchen ar y cwmni.
Mae’r gwesty pum seren wedi bod ar gau ers i’r gwarchae ddod i rym ar Fawrth 23 a bydd yn ailagor ar Orffennaf 14.
“Mae’n glir y bydd argyfwng Covid-19 yn parhau i gael effaith trychinebus ar economi’r byd, ein gwlad a’r diwydiant teithio, twristiaeth a digwyddiadau am fisoedd i ddod,” meddai datganiad gan y cwmni.
“Gyda galwedigaethau a refeniw wedi lleihau’n sylweddol, nid yw’n model cyllidebol presennol yn gynaliadwy”.
“Mae gan Syr Terry Matthews ddyletswydd ddinesig i gynnal swyddi Celtic Manor”
Mae Aelod o’r Senedd Plaid Cymru, Delyth Jewell, sy’n cynrychioli Dwyrain De Cymru, wedi ymateb i’r cyhoeddiad drwy ddweud fod gan “Syr Terry Matthews ddyletswydd ddinesig i gynnal swyddi” Celtic Manor.
Ac mae Plaid Cymru wedi pwysleisio’r ffaith fod gan Syr Terry Matthews werth net o £1.2 biliwn, a bod Celtic Manor wedi gwneud oddeutu £1.7 miliwn o elw yn 2018.
“Mae perchennog y Celtic Manor, Syr Terry Matthews, yn biliynydd, felly mae ganddo’r gallu i ddarparu cefnogaeth ariannol i’r busnes nes bod yr argyfwng Covid-19 drosodd,” meddai Delyth Jewell.
“Hyd yn oed petai’r Syr Terry Matthews yn talu cyflogau’r 450 aelod o staff am flwyddyn gyfan, byddai prin yn gwneud tolc o 1% i’w gyfoeth personol, sydd wedi cael ei gronni yn sgil gwaith caled ei staff.
“Byddai troi ei gefn arnyn nhw nawr yn gywilyddus.
“Mae gan Syr Terry Matthews ddyletswydd ddinesig i gynnal y swyddi hyn, yn enwedig o ystyried bod Llywodraeth Cymru talu yn rhannol am y Ganolfan Cynhadledd Ryngwladol agorwyd ar ei dir y llynedd”.