“Pobol yn mynd dros ben llestri” a thensiynau rhwng y gymuned leol ac ymwelwyr fydd yn hawlio sylw’r plismyn dros yr wythnos i ddod, yn ôl un Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Os bydd yr achosion o Covid-19 yn parhau i ostwng, o ddydd Sadwrn yma ymlaen, bydd gan dwristiaid hawl i ddod i aros i lety hunanarlwyo yng Nghymru.

A dydd Llun nesaf, bydd rhai tafarndai a thai bwyta yn cael agor tu allan os oes ganddyn nhw’r lle i wneud hynny.