Roedd gormod o bobol yn aros yn rhy hir am dreialon llys CYN y Covid, ac mae’r argyfwng wedi gwaethygu’r broblem.

Dyna’r rhybudd gan Dr Huw Pritchard sy’n ddarlithydd y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd ac a fu’n cadeirio ‘gweminar’ (seminar ar y We) diweddar ar y mater.