Yn sgil addewid Llywodraeth y Deyrnas Unedig y bydd nawdd ychwanegol ar gyfer y celfyddydau, mae golau ar y gorwel i un ganolfan yng Nghaerdydd.

Ar ddechrau’r cau ym mis Ebrill, roedd rheolwyr y Chapter yn pryderu’n ddybryd am ddyfodol y ganolfan gelfyddydau a oedd ‘mewn sefyllfa ariannol ansicr’ ar ôl colli 82% o’u hincwm dros nos. Pryderai’r ganolfan am ddyfodol swyddi’r 110 o staff a sefydlwyd cronfa gyhoeddus i godi arian a ddenodd £25,000 ymhen cwta fis.