Mae Gwrthryfel Difodiant – Extinction Rebellion – yn “brysur iawn” o hyd er gwaetha’r argyfwng coronafeirws.

Dyna mae un o geffylau blaen y mudiad yng Nghymru wedi ei ddweud yn dilyn cyhoeddiad am ragor o brotestiadau ledled gwledydd Prydain.

Ac mae Gwenni Jenkins-Jones yn grediniol bod argyfwng y corona wedi cryfhau’r dadleuon tros warchod yr amgylchedd.