Wel, dyma ni unwaith eto. Oes rhywbeth syfrdanol wedi digwydd yn eich bywydau chi yn ddiweddar? Na? Finnau chwaith. Er, roedd grŵp llinynnol yn perfformio yn y parc lleol. Roedd Mam wrth fy ochr – wel mor agos ag sy’n dderbyniol. Oedodd y ddwy ohonom er mwyn gwrando ar y cerddorion ifanc. Roedd deigryn yn fy llygad – y ddwy lygad a dweud y gwir. Clefyd y paill o bosib, one fe ddown at hwnnw yn y man. “O, Mam!” medde fi, “cerddoriaeth byw.” Mae Mam yn caru cerddoriaeth. Dim ond ei llygaid oeddwn