Un o wynebau cyfarwydd y byd darlledu sy’n camu i esgidiau Dewi Llwyd a dod yn gyflwynydd newydd Pawb a’i Farn.

Mae Betsan Powys yn anelu at gynnwys “lleisiau llai cyfarwydd” ar y rhaglen fu’n trafod pynciau mawr y dydd o flaen cynulleidfa fyw ar S4C ers 1993.

Gwilym Owen oedd cyflwynydd gwreiddiol y sioe fu’n teithio neuaddau Cymru, gyda phanel o wleidyddion ac arbenigwyr yn ateb cwestiynau gan gynulleidfaoedd ledled y wlad.