Mae cwmni o Bort Talbot yn un o ddau safle yn y  Deyrnas Unedig sydd wedi dechrau cynhyrchu miliynau o orchuddion wyneb bob wythnos fel rhan o fuddsoddiad gwerth £14miliwn gan Lywodraeth Prydain.

Fe gyhoeddodd y gweinidog yn y Cabinet, Michael Gove, heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 20) bod cyflenwyr ym Mhort Talbot a Blackburn yng ngogledd Lloegr wedi dechrau cynhyrchu gorchuddion wyneb “o safon uchel”, gyda safle arall yn Livingston yn yr Alban yn dechrau yn yr wythnosau nesaf.

Mae’n rhan o gynllun y Llywodraeth i gynyddu cynhyrchiant o’r masgiau yn y Deyrnas Unedig, meddai Michael Gove.

Grŵp British Rototherm ym Mhort Talbot, Cookson & Clegg yn Blackburn, a Transcal, yn Livingston sydd ymhlith y cyntaf i ddechrau cynhyrchu’r gorchuddion wyneb.

Gorfodol

Mae gwisgo gorchuddion wyneb eisoes yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yn Lloegr ac mae’r Llywodraeth wedi’i wneud yn orfodol i’w gwisgo mewn siopau ac archfarchnadoedd o Orffennaf 24 er mwyn atal lledaeniad y coronafeirws.

Mae’r Llywodraeth hefyd yn annog pobl i wisgo masgiau mewn llefydd cyhoeddus lle mae’n anoddach ymbellhau’n gymdeithasol neu le mae pobl yn fwy tebygol o ddod i gysylltiad gyda phobl na fyddan nhw fel arfer yn cwrdd â nhw.

Dywedodd Michael Gove bod hyn yn “gam mawr ymlaen i sicrhau bod ein gwlad yn gallu cwrdd â’r galw am orchuddion wyneb drwy weithio gyda chwmnïau yng ngwledydd Prydain.”

Ychwanegodd y bydd y llinellau cynhyrchu hyn yn gallu darparu miliynau o orchuddion wyneb i’r cyhoedd “heb roi unrhyw bwysau ychwanegol ar gadwyn gyflenwi’r Gwasanaeth Iechyd (GIG)”.

Yn ôl Swyddfa’r Cabinet mae’r Llywodraeth wedi prynu 10 llinell gynhyrchu, sy’n cynnwys 34 tunnell o offer a pheiriannau, tra bod 10 arall wedi cael eu comisiynu gan gwmni Expert Tooling and Automation Cyf yn Coventry.

Cynhyrchu miliynau o fasgiau

Mae disgwyl i’r cwmnïau gynhyrchu miliynau o’r masgiau bob wythnos, meddai, ac yn sicrhau nad yw’r galw gan y cyhoedd yn effeithio’r cyflenwad o orchuddion wyneb mwy arbenigol ar gyfer staff rheng flaen y GIG.

Mae nifer o brynwyr yn y sector cyhoeddus a phreifat eisoes wedi gwneud archebion ar gyfer y masgiau ac mae’r Llywodraeth mewn trafodaethau gyda nifer o gwmnïau manwerthu eraill ynglŷn â phrynu gorchuddion wyneb.

Fe fydd y masgiau yn rhai sydd i’w defnyddio unwaith yn unig ac yn cydymffurfio gyda’r canllawiau newydd.