Mae Abertawe ymhlith y lleoliadau ar gyfer deg llys barn dros dro yn sgil y coronafeirws.

Dyma’r unig safle o’i fath yng Nghymru, gyda naw arall yn Lloegr.

Bwiad y lleoliadau yw helpu’r llysoedd i barhau â’u gwaith ac i weinyddu cyfiawnder ar ôl i achosion gael eu gohirio yn ystod ymlediad y feirws.

Bydd y lleoliadau’n cynnal gwrandawiadau mewn achosion nad ydyn nhw’n gofyn am ddedfryd o garchar, yn ogystal â gwrandawiadau tribiwnlysoedd a materion teuluol a sifil.

Mae bron i 480,000 o achosion heb eu clywed yng Nghymru a Lloegr dros y misoedd diwethaf, tra bod Llysoedd y Goron yn aros i gynnal oddeutu 41,000 o achosion a gafodd eu gohirio, yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Drwy ysgafnhau llwyth gwaith o ran achosion llai difrifol, fe fydd modd i’r llysoedd parhaol fynd i’r afael ag achosion mwy difrifol fel llofruddiaethau ac achosion o dreisio.

Bydd y lleoliad cyntaf yn Chichester yn agor yr wythnos nesaf, a’r gobaith yw y bydd y naw arall yn weithredol erbyn mis nesaf.

Daeth gwrandawiadau rheithgor i ben ym mis Mawrth, ac fe fu modd cynnal hyd at 90% o wrandawiadau o bell gan ddefnyddio technoleg fodern.

Ymateb Llywodraeth Prydain

Er bod gwrandawiadau’n cael eu cynnal mewn llysoedd unwaith eto, rhybuddiodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Robert Buckland fis diwethaf y gallai cryn amser i fynd i’r afael â’r llwyth gwaith.

“Byddan nhw’n helpu i gynyddu capasiti ar draws ein llysoedd a’n tribiwnlysoedd – gan leihau oedi a chyflwyno cyfiawnder yn gynt i ddioddefwyr,” meddai.

“Ond fyddwn ni ddim yn stopio yn y fan honno.

“Ynghyd â’r farnwriaeth, staff llysoedd a sector y gyfraith, dw i’n benderfynol fod rhaid i ni fynd ar ôl pob opsiwn sydd ar gael i sicrhau bod ein llysoedd yn adfer mor gyflym â phosib.”

Dyma leoliadau’r llysoedd dros dro:

– Hen lys Sir Amwythig yn Telford

– Canolfan Ddatblygu Swydd Hertford yn Stevenage

– Siambr Cyngor Abertawe

– Llys Cloth Hall yn Leeds

– Neuadd y Dref Middlesbrough

– East Pallant House, Chichester;

– 102 Petty France, Llundain;

– Prospero House, Llundain;

– Hen Lys Ynadon Fleetwood yn Swydd Gaerhirfryn

– Siambr y Brenhinoedd a Chanolfan Ymwelwyr Palas yr Esgob yn Eglwys Gadeiriol Peterborough.