Mae dyn 30 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio aelod o staff ysbyty yn Brighton fore heddiw (dydd Sul, Gorffennaf 19).

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad â chyllell yn yn Ysbyty Sirol Brenhinol Sussex.

Roedd lle i gredu yn dilyn y digwyddiad fod bywyd dyn 56 oed mewn perygl, ond dywed yr heddlu nad yw hynny’n wir bellach.

Yn ôl neges ar Twitter, glanhawr yn yr ysbyty yw’r dyn.

Dydy’r digwyddiad ddim yn cael ei drin fel ymosodiad brawychol a chafodd neb arall ei anafu.

Yn ôl yr ysbyty, mae’r heddlu wedi bod yn archwilio’r safle wrth i’r ymchwiliad ddechrau, ac mae gofyn i’r cyhoedd gadw draw am y tro.