Mae 900 wedi arwyddo deiseb mewn ychydig dros 24 awr yn gofyn i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chyngor Gwynedd gau holl lwybrau’r Wyddfa nes bydd cynllun newydd mewn lle i reoli llif traffig a phobol.

Daw hyn yn sgil problemau traffig dros y penwythnos, lle cafodd yr heddlu eu galw gan fod 500 o geir wedi parcio yn anghyfreithlon ym Mhen y Pas yn Eryri.

“Yn dilyn llacio mesurau cloi gan Lywodraeth Cymru, gwelwyd cannoedd o geir, unwaith eto,  wedi eu parcio’n anghyfreithlon gan bobol oedd wedi teithio i’r ardal er mwyn dringo’r Wyddfa, yn ystod penwythnos Gorffennaf 18 ac 19, 2020, yn ardal Pen y Pas a Phenygwryd, heb unrhyw fesurau pellhau cymdeithasol mewn lle,” meddai’r ddeiseb.

“Rydym yn grediniol, bod rhaid, a hynny fel mater o frys, i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chyngor Gwynedd, symud i osod mesurau mewn lle, i gau’r Wyddfa’n gyfan gwbl i unrhyw ymwelydd, boed hynny’n lleol neu o du allan i’r ardal sydd am ddringo’r Wyddfa, a hynny o unrhyw un o’r llwybrau gwahanol.”

Mae na bryder y gallai parcio’n anghyfreithlon ar ochrau’r ffyrdd ei gwneud hi’n amhosib i gerbydau eraill basio, ac y gallai roi bywydau mewn perygl petai’r gwasanaeth brys yn methu â chyrraedd yno.