Cafodd gwyntoedd o hyd at 66 milltir yr awr eu cofnodi ym Mhen-bre yn Sir Gaerfyrddin wrth i Storm Ellen daro rhannau o wledydd Prydain, meddai’r Swyddfa Dywydd.

Gorllewin Cymru oedd wedi cofnodi’r gwyntoedd cryfaf gyda gwyntoedd o hyd at 66  milltir yr awr hefyd yn cael eu cofnodi yn Iwerddon, ac 89mya ar hyd arfordir deheuol y wlad.

Roedd pobl sy’n gwersylla wedi cael rhybudd y gallai coed ddymchwel mewn gwyntoedd o fwy na 70mya a chafodd rhybudd melyn ei gyhoeddi.

Mae’r rhybudd yn parhau mewn grym hyd at oriau man fore dydd Gwener (Awst 21) gyda rhybudd am oedi i deithwyr a’r posibilrwydd o golli cyflenwadau trydan.

Daw’r stormydd lai nag wythnos ar ôl i’r tymheredd gyrraedd 34C (93F) mewn rhannau o’r Deyrnas Unedig.

Dywedodd Luke Miall o’r Swyddfa Dywydd y bydd effeithiau Storm Ellen “yn parhau am y cwpl o ddyddiau nesaf” gan ychwanegu: “Ry’n ni wedi mynd o un eithaf i’r llall a’r peth cyntaf sy’n dod i fy meddwl gyda’r math yma o ddigwyddiadau yw newid hinsawdd.

“Ry’n ni’n debygol o weld digwyddiadau eithafol fel hyn yn amlach.”