Mae miloedd o ddisgyblion yn derbyn eu canlyniadau TGAU heddiw (Dydd Iau, Awst 20) – a hynny dan amgylchiadau go wahanol i’r arfer.

Oherwydd yr argyfwng coronafeirws doedd dim arholiadau TGAU a Safon Uwch eleni, ac felly bu’n rhaid dyfeisio ffordd newydd o roi graddau i bobol ifanc Cymru.

Ddydd Iau diwetha’ cafodd graddau lefelau A eu cyhoeddi, ac mi daniodd hyn drafodaeth danllyd am y fformiwla ddadleuol gafodd ei ddefnyddio i ddyfarnu’r graddau.

Ar ddechrau’r wythnos hon daeth tro pedol gan Lywodraeth Cymru, a daeth i’r amlwg y byddai disgyblion lefel A – yn ogystal â TGAU – yn derbyn canlyniadau ar sail asesiadau athrawon. Fe fu tro pedol hefyd yn yr Alban, Iwerddon a Lloegr.

Bydd disgyblion yn medru derbyn eu canlyniadau yn eu hysgolion, ond oherwydd yr argyfwng bydd rhai yn eu derbyn dros e-bost.

Lefelau A – Beth aeth o’i le?

Wrth ystyried y posibiliadau penderfynodd Cymwysterau Cymru y byddai’n well peidio selio canlyniadau lefelau A ar amcan farciau athrawon.

Eu dadl hwythau oedd y byddai athrawon yn rhoi graddau sy’n rhy hael, ac y byddai fformiwla yn rhoi marciau fwy gonest.

Gyda’r fformiwla roedd 42% o ganlyniadau yn is nag amcan farciau’r athrawon, ac mi wnaeth hyn esgor ar ymateb tanllyd.

Ar ddechrau’r wythnos hon mi gyhoeddodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, y byddai’r Llywodraeth yn cefnu ar y fformiwla ac yn rhoi canlyniadau ar sail asesiadau athrawon.

Yn y pendraw mi ymddiheurodd am y sefyllfa.

“Dymuno’r gorau”

Mae Kirsty Williams wedi “dymuno’r gorau i bawb sy’n derbyn eu canlyniadau heddiw,” ac wedi cydnabod gwaith caled disgyblion Cymru.

“Gyda’r holl newidiadau y bu’n rhaid eu gwneud eleni wrth i ni wynebu amgylchiadau eithriadol, bu’n rhaid i chi aberthu nifer o bethau,” meddai.

“Mae wedi bod yn flwyddyn na welwyd ei thebyg o’r blaen, ac fe fydd heddiw yn teimlo braidd yn wahanol.

“Mae’r canlyniadau hyn yn adlewyrchiad o’ch gwaith caled, eich cyrhaeddiad blaenorol mewn arholiadau ac asesiadau ysgol, ac yn eich gwobrwyo am hynny, felly dylech ymfalchïo yn eich llwyddiant.”

Gohirio BTec

Er y bydd miloedd yng Nghymru yn derbyn eu canlyniadau TGAU heddiw, fe fydd na oedi cyn cyhoeddi canlyniadau cymhwyster BTec.

Bwrdd arholi Pearson sydd yn gyfrifol am y cymhwyster yma yng Nghymru, Lloegr, a Gogledd Iwerddon, a bydd y canlyniadau yn cael eu gohirio.

Brynhawn ddoe mi gyhoeddodd y bwrdd y byddan nhw’n newid y ffordd y byddan nhw’n dyfarnu’r graddau, gan eu dyfarnu ar sail asesiadau athrawon.

Roedd Pearson yn pryderu y byddai disgyblion BTec dan anfantais fel arall, am fod disgwyl i ganlyniadau TGAU a Safon Uwch fod dipyn uwch eleni.