Mae chwe Awdurdod Lleol yng ngogledd Cymru yn dweud nad oes ganddyn nhw “unrhyw hyder” yn y broses o ddyfarnu graddau Safon Uwch.
Daw hyn yn dilyn protest y tu allan i’r Senedd ym Mae Caerdydd ddoe (Awst 16) ynghylch helynt canlyniadau arholiadau Lefel A.
O’r holl raddau Safon Uwch gafodd eu cyhoeddi ddydd Iau (Awst 13), roedd 42.2% yn is na’r hyn oedd wedi’i gyflwyno gan athrawon.
Roedd 53.7% wedi derbyn yr un radd, a 4.1% wedi cael gradd uwch.
Mae chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru, eu Prif Swyddogion, y Consortiwm Gwella Ysgolion Rhanbarthol, GwE a Phenaethiaid Uwchradd, wedi galw ar y Gweinidog Addysg Kirsty Williams i gynnal adolygiad brys er mwyn sicrhau nad yw disgyblion yn cael cam.
“Nid ydym yn teimlo y bu’r broses yn un deg na chadarn, ac yn enwedig felly i ddysgwyr bregus a fu’n flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru dros y tymor hwn”, meddai’r awdurdodau mewn llythyr ar y cyd.
“Bu anghysondeb ac anghyfartaledd sylweddol yn neilliannau ysgolion ar draws gogledd Cymru sydd wedi achosi cryn bryder i ddysgwyr unigol, eu rhieni/gofalwyr a staff ysgolion.”
Mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi caniatáu apeliadau os oes tystiolaeth fod asesiadau mewnol wedi cael eu marcio’n uwch na’r graddau terfynol.
Ond yn ôl yr awdurdodau lleol does gan ysgolion yng ngogledd Cymru ddim hyder yn y broses apelio bresennol.
‘Cosbi’
Yn ôl yr awdurdodau lleol mae “gor-bwyslais ar ddata hanesyddol” wedi arwain at “gosbi” dysgwyr ac ysgolion.
Mae rhai ysgolion yng ngogledd Cymru wedi gweld 70% o’u graddau wedi’u hisraddio.
“Ymddengys nad oes patrwm cyson o fewn ysgolion, na rhwng ysgolion”, meddai’r llythyr.
“Mae’n amlwg iawn bod y brand Safon Uwch wedi’i amddiffyn ar draul dysgwyr unigol sydd ddim wedi cael y graddau a ragwelwyd ar eu cyfer pan wnaeth y dosbarthiad cenedlaethol gyrraedd lefel ysgol.
“Addawyd cynnal adolygiad brys, ond efallai y daw hyn yn rhy hwyr i wneud gwahaniaeth i ddysgwyr unigol.”
Mae’r awdurdodau lleol hefyd yn dweud eu bod nhw ac ysgolion yn bryderus am les emosiynol dysgwyr.
Bydd Pwyllgor Plant, Pobol Ifanc ac Addysg y Senedd yn cyfarfod dydd Mawrth (Awst 18) i drafod effaith y canlyniadau ar bobol ifanc.
TGAU – “dysgu o’r anhrefn”
Eglurodd yr awdurdodau lleol eu bod nhw hefyd yn pryderu am ganlyniadau TGAU fydd yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau (Awst 20)
“Rydym am fynegi ein pryder dwys a sylweddol y bydd canlyniadau TGAU dydd Iau yn adlewyrchu yr un sefyllfa a phrosesau, a fydd yn cymhlethu ymhellach yr hyn sydd eisoes yn sefyllfa hynod anodd i’n pobol ifanc a’n proffesiwn.”
Mae Siân Gwenllian AS, gweinidog addysg gysgodol Plaid Cymru wedi galw am eglurder cyn diwrnod canlyniadau TGAU.
“Rwy’n galw ar y Gweinidog Addysg a Llywodraeth Cymru i ddysgu o’r anhrefn a achoswyd gyda’r canlyniadau Lefel A pan ddaw at TGAU yr wythnos hon”, meddai.
“Mae angen gwneud hynny mor fuan ag sy’n bosib – mae aros tan ddydd Iau yn annerbyniol a bydd yn achosi mwy o bryder ac ansicrwydd i fyfyrwyr.
“Oherwydd y dystiolaeth gynyddol o anghysondebau ac annhegwch, dylai’r Llywodraeth ddefnyddio asesiadau’r athrawon yn hytrach nag algorithm diffygiol.
“Mae’r Prif Weinidog yn amddiffyn algorithm ac yn dewis siarad ystadegau yn hytrach na chyfleoedd bywyd yr unigolion sy’n cael eu heffeithio.”
Canfod y ffordd orau ymlaen i ddysgwyr Cymru
Mewn datganiad dywedodd Cymwysterau Cymru ei bod nhw’n gweithio’n agos gyda CBAC a’i bod nhw’n ystyried y newidiadau sy’n cael eu cyflwyno yn Lloegr er mwyn canfod y ffordd orau ymlaen i ddysgwyr Cymru.
Mae Cymwysterau Cymru wedi cadarnhau ei bod nhw’n ymestyn y sail dros apelio eleni ar gyfer TGAU, UG a Safon Uwch a chymwysterau Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru.
Gellir apelio ar y sail bod tystiolaeth o asesiad mewnol sydd ym marn yr ysgol neu’r coleg yn uwch na’r radd a ddyfarnwyd.
“Rydym yn ymwybodol bod rhai canolfannau’n pryderu nad yw’r model safoni ystadegol a ddefnyddiwyd i gyfrifo’r graddau Safon Uwch a ddyfarnwyd, wedi adlewyrchu’r berthynas gwerth ychwanegol a allai fodoli yn y ganolfan rhwng perfformiad ar lefel UG a Safon Uwch”, meddai Cymwysterau Cymru.
“Credwn y bydd y sail newydd hon ar gyfer apelio yn mynd i’r afael â’r mater hwn.”
Mae disgwyl i CBAC ddarparu mwy o fanylion am y broses apelio wythnos yma.