Mae Prif Weinidog Seland Newydd, Jacinda Ardern, wedi gohirio etholiadau’r wlad tan fis Hydref yn dilyn cynnydd mewn achosion o’r coronafeirws yn ninas Auckland.

Roedd disgwyl i’r etholiadau gael eu cynnal ar Fedi 19 ond fe fyddan nhw nawr yn cael eu cynnal ar Hydref 17, cyhoeddodd Jacinda Ardern heddiw (Dydd Llun, Awst 17).

O dan gyfraith Seland Newydd, roedd gan Jacinda Ardern yr opsiwn o ohirio’r etholiad am hyd at ddeufis.

Roedd y gwrthbleidiau wedi bod yn galw am eu gohirio yn dilyn 49 achos o’r coronafeirws yn ninas fwyaf y wlad, Auckland wythnos ddiwethaf. Mae’r ddinas wedi cael ei rhoi dan glo am bythefnos sydd wedi atal unrhyw ymgyrchu etholiadol.

Dywedodd Jacinda Ardern ei bod eisiau “rhoi’r cyfle gorau i etholwyr gael y wybodaeth maen nhw ei hangen ynglŷn â phleidiau ac ymgeiswyr er mwyn rhoi sicrwydd ar gyfer y dyfodol”.

Mae disgwyl i’w Phlaid Lafur sicrhau ail dymor.

Cyn yr achosion diweddara yn Auckland roedd Seland Newydd wedi bod heb yr un achos o’r feirws ers 102 diwrnod ac roedd bywyd wedi dychwelyd i normalrwydd ar gyfer y rhan fwyaf o bobl.

Yr unig achosion ar y pryd oedd ymhlith teithwyr oedd yn dychwelyd i’r wlad ac oedd wedi cael eu rhoi mewn cwarantin ar y ffin.

Mae swyddogion yn credu bod y feirws wedi dod i Seland Newydd o dramor ond nid ydyn nhw wedi darganfod sut hyd yn hyn. Maen nhw’n credu bod y 49 achos yn Auckland yn gysylltiedig.