Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bydd dros £260m ar gael i gynghorau lleol yng Nghymru i roi’r sicrwydd sydd ei angen arnyn nhw i gynllunio ar gyfer gweddill y flwyddyn.

Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd y buddsoddiad yn rhoi hyder i awdurdodau lleol baratoi eu cyllidebau ar gyfer ail don bosib o’r coronafeirws.

Mae’r pecyn cymorth diweddaraf yn dod a’r swm mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi i awdurdodau lleol yn ystod y pandemig i bron i hanner biliwn o bunnoedd.

“Mae ein hawdurdodau lleol wedi ymateb yn ardderchog i heriau Covid-19, ond rydym yn cydnabod yr effaith ariannol y mae hyn wedi’i chael arnynt,” meddai Julie James, Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.

“Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac arweinwyr awdurdodau lleol i ddeall y pwysau a’r heriau sy’n eu hwynebu, a’r cymorth sydd ei angen i barhau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus integredig o safon i gymunedau ledled Cymru.”

‘Pwysau ariannol eithriadol’

Diolchodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Llefarydd Cyllid ac Adnoddau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i weinidogion Llywodraeth Cymru am gydweithio â awdurdodau lleol ar y pecyn cyllid.

“Mae cynghorau, a’r gwasanaethau lleol hanfodol yr ydym yn eu darparu, ar flaen y gad yn yr ymdrech i fynd i’r afael â’r pandemig hwn ac maent wedi bod o dan bwysau ariannol eithriadol”, meddai.

“Bydd yr addewid cyllid hwn yn rhoi’r hyder iddynt gynllunio gyda mwy o sicrwydd ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol”.

Ychwanegodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans: “Mae cynghorau lleol wedi bod wrth wraidd ein hymateb i Covid-19.

“Mae’r pecyn newydd hwn o gymorth ariannol yn cydnabod graddfa’r heriau digynsail sy’n wynebu awdurdodau ledled Cymru ac yn rhoi’r sicrwydd sydd ei angen arnynt i barhau i ymateb i’r argyfwng a pharatoi ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol.”