Mae Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, Charles Michel wedi galw uwchgynhadledd frys o arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd i drafod yr etholiad arlywyddol yn Belarws a’r trais yn sgil protestiadau yn erbyn y canlyniad.

Wrth drydar, dywedodd Charles Michel bod gan “bobl Belarws yr hawl i benderfynu ar eu dyfodol ac i ethol eu harweinydd yn rhwydd, tra’n dweud y byddai’r gynhadledd fideo yn cael ei chynnal ddydd Mercher am 11 y bore.

“Mae trais yn erbyn protestwyr yn annerbyniol ac ni ellir ei ganiatáu,” ychwanegodd.

Dywedodd 27 Gweinidog tramor yr Undeb Ewropeaidd ddydd Gwener nad oedd yr etholiadau yn deg nac ychwaith yn rhydd, a’u bod yn gwrthod derbyn canlyniadau fel y cyhoeddwyd gan Gomisiwn Etholiadol Belarws.