Mae’r pwysau’n cynyddu ar Boris Johnson ac Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Gavin Williamson, i wneud tro pedol yn dilyn beirniadaeth lem o ganlyniadau arholiadau Safon Uwch yn Lloegr.

Wrth i ddisgyblion ac athrawon barhau i brotestio ynglŷn â’r canlyniadau, ar ôl i’r arholiadau gael eu canslo yn sgil y coronafeirws, mae rhai Ceidwadwyr blaenllaw wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i fynd i’r afael a’r “shambls”.

Mae gweinidog wedi galw am ganiatáu myfyrwyr i sefyll eu harholiadau am ddim yn yr hydref os ydyn nhw’n anhapus gyda’r graddau maen nhw wedi eu cael. Roedd fformiwla ddadleuol wedi cael ei defnyddio i safoni’r graddau ac mae cyn-arweinydd y Blaid Geidwadol, Syr Iain Duncan Smith, wedi awgrymu y dylid hepgor y fformiwla yn gyfan gwbl.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog fynd ar wyliau i’r Alban yr wythnos hon ond mae’r arweinydd Llafur Syr Keir Starmer wedi galw arno i gymryd “cyfrifoldeb personol” i ddelio gyda’r mater.

Mae’r cyn-ysgrifennydd addysg, yr Arglwydd Baker, hefyd wedi annog gweinidogion i ohirio cyhoeddi canlyniadau arholiadau TGAU, sy’n cael eu cyhoeddi ddydd Iau (Awst 20), nes bod y problemau gyda chanlyniadau Lefel A wedi cael eu datrys.

Yng Ngogledd Iwerddon mae’r Gweinidog Addysg Peter Weir wedi dweud y bydd myfyrwyr TGAU yn derbyn y graddau ar sail amcangyfrifon athrawon.