Yn dilyn canlyniadau Safon Uwch yr wythnos hon mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd wedi cael ei alw ar frys.

Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod ddydd Mawrth nesaf (Awst 18).

Mae CBAC, Cymwysterau Cymru a Llywodraeth Cymru wedi eu gwahodd i roi gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf.

O’r holl raddau Safon Uwch cafodd eu cyhoeddi ddydd Iau (Awst 13), roedd 42.2% yn is na’r hyn oedd wedi’i gyflwyno gan athrawon.

Mae 53.7% wedi derbyn yr un radd, a 4.1% wedi cael gradd uwch.

‘Dwyn i gyfrif’

Yn ôl Lynne Neagle, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg mae’r Pwyllgor yn awyddus i sicrhau y darperir tegwch, eglurder a chywirdeb i ddysgwyr, rhieni a gofalwyr, a staff addysg yng Nghymru.

“Mae gan ein Pwyllgor rôl bwysig wrth ddwyn Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i gyfrif ar y penderfyniadau a wneir wrth ymateb i’r pandemig”, meddai.

“O ystyried y pryderon a’r cymhlethdodau sylweddol o ran dyfarnu canlyniadau arholiadau eleni, byddwn yn cyfarfod ar frys i ofyn am eglurder i’r rhai sydd wedi bod drwy’r broses heriol hon mewn cyfnod digynsail.

“Bydd llesiant pobl ifanc, a’u gallu i gynllunio ar gyfer eu dysg a’u gyrfaoedd yn y dyfodol, yn greiddiol i’n gwaith wrth inni edrych ar y materion hyn.

“Rydym yn cydnabod bod y materion hyn yn gymhleth ac y bydd angen eu hystyried yn fanwl dros y tymor hwy.

“Fodd bynnag, credwn fod gennym ni rôl bwysig nawr, sef gofyn cwestiynau a fydd yn sicrhau bod dull teg a chlir yn cael ei fabwysiadu a’i gyfathrebu i bobl Cymru cyn gynted â phosibl.”

Bydd myfyrwyr TGAU yn derbyn eu canlyniadau yr wythnos nesaf, ar Awst 20.