Mae sychder a gwres wedi arwain at dri o danau gwyllt anferthol mewn coedwigoedd ger Los Angeles gydag ofnau am ragor i ddod.

Fe fu’n rhaid i filoedd ffoi o’u cartrefi ar ôl i dân mewn coedwig fygwth 5,400 o gartrefi a llosgi 18 milltir sgwâr o lwyni a choed mewn ardal i’r gogledd o’r ddinas. Fe fu dau dân arall yn beryglus o agos i ddinistrio cymdogaethau gerllaw.

Gyda rhagolygon am ragor o dywydd poeth, sych ledled y dalaith a’r posibilrwydd o wyntoedd cryf mae peryglon mawr am ragor o danau.