Er bod yr haul yn tywynnu mewn rhannau helaeth o Gymru y bore yma, mae rhybudd melyn am stormydd mellt a tharanau yn dal mewn grym heddiw ac yfory.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio fod Cymru, a chanolbarth a de Lloegr yn agored i stormydd a glaw trwm y penwythnos yma. Gallai’r tywydd eithafol arwain at lifogydd mewn mannau, yn ogystal â difrodi adeiladau a thorri cyflenwadau trydan.

Mae disgwyl i’r tymheredd ostwng yn ystod y penwythnos, a gallai hyd at 30 i 40mm o law ddisgyn mewn llai nag awr, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Mae’r cawodydd yn debygol o gychwyn yn ne a de-ddwyrain Lloegr heddiw gan symud tua’r gogledd a’r gorllewin yn raddol, gyda stormydd a therfysg yn taro Cymru’n ddrwg yfory. Mae’r Alban, Gogledd Iwerddon a gogledd-orllewin Lloegr, ar y llaw arall, yn debygol o aros yn sych a heulog.