Mewn seremoni fer yn Tokyo i gofio’r diwrnod yr ildiodd Japan ar 15 Awst 1945, meddai’r Ymeradwr Naruhito:

“Wrth fyfyrio am ein gorffennol a’n teimladau o edifeirwch dwfn, dw i’n mawr obeithio na fydd anrhaith rhyfel byth yn cael ei ailadrodd.”

Addawodd ddilyn yn ôl troed ei dad, a wnaeth ymroi drwy gydol ei 30 mlynedd o deyrnasiad i wneud iawn am y rhyfel a gafodd ei ymladd yn enw Hirohito, taid yr ymeradwr presennol.

Gyda phryderon am y coronafeirws, a chenhedlaeth yr ail ryfel byd yn cyflym ddiflannu o’r tir, tyrfa lawer llai o tua 500 a oedd yn galaru am y meirw gyda munud o dawelwch eleni. Roedd pawb yn gwisgo masgiau, ac ni chanwyd yr anthem genedlaethol.

Addawodd y Prif Weinidog, Shinzo Abe, hefyd y bydd Japan yn ystyried y gwersi o’i hanes ac na fydd yn ailadrodd dinistr y rhyfel. Dywedodd fod yr heddwch mae Japan yn ei fwynhau heddiw wedi’i adeiladu ar aberth y rheini fu farw yn y rhyfel.