Mae degau o filoedd o bobl wedi bod yn protestio ym Minsk, prifddinas Belarus ar ôl wythnos gythryblus yn y wlad sydd wedi’i lleoli rhwng Rwsia a gwlad Pwyl.

Mae galwadau cynyddol ar yr arlywydd Alexander Lukashenko i ymddiswyddo ar ôl cael ei ailethol mewn etholiad dadleuol ddydd Sul diwethaf.

Roedd tyrfa o dros 20,000 yn llenwi sgwâr canolog y brifddinas ddoe.

Mae’r arlywydd yn diystyru’r protestwyr fel pypedau sy’n cael eu defnyddio gan wledydd tramor i’w danseilio.

Mae ymddygiad yr heddlu dros yr wythnos ddiwethaf wedi cael ei feirniadu’n hallt gan weinidogion tramor yr Undeb Ewropeaidd a gwledydd eraill.

Yn gynharach yn yr wythnos, cafodd 7,000 o brotestwyr eu harestio ac mae adroddiadau am lawer yn cael eu curo gan yr heddlu. Cafodd tua 2,000 o’r protestwyr eu rhyddhau ddoe.

Mae llywodraeth y wlad yn honni bod Alexander Lukashenko wedi ennill 80% o’r bleidlais ddydd Sul i gael yr hawl am chweched tymor yn ei swydd. Mae’r protestwyr, sy’n mynnu bod hyn yn gelwydd noeth, yn galw am etholiad newydd gyda miloedd o weithwyr yn bygwth mynd ar streic.