Does neb sydd wedi profi’n bositif i’r coronafeirws wedi marw yn yr Alban ers mis, yn ôl y ffigurau diweddaraf.

Dros y cyfnod 24 diwethaf, mae un farwolaeth wedi bod yng Nghymru, ar ôl deuddydd heb farwolaethau, a phedwar wedi marw yn Lloegr.

Mae 27 o bobl wedi profi’n bositif i’r coronafeirws yng Nghymru dros y 24 awr diwethaf, o gymharu â 51 yn yr Alban.

Mae cyfanswm o 1,587 wedi marw ar ôl profi’n bositif i’r haint yng Nghymru, o gymharu â 2,491 yn yr Alban, ffigur sydd wedi aros yr un faint ers 15 Gorffennaf.

Wrth ymateb i’r ffigurau yn yr Alban, meddai’r Prif Weinidog Nicola Sturgeon:

“Mae cyfradd yr achosion yn yr Alban yn dal yn isel, a diolch byth, diwrnod arall heb farwolaethau ymysg achosion sydd wedi eu cadarnhau.

“Ond mae’r ffigurau’n dweud wrthon ni hefyd fod y feirws yn sicr yn dal yma – felly byddwch yn arbennig o ofalu a dilyn y canllawiau.”