Fe wnaeth mwy na 1,000 o fudwyr lanio ym Mhrydain mewn 10 diwrnod ar ôl croesi’r Sianel mewn cychod bach y mis yma.

Fe wnaeth Llu Ffiniau’r Deyrnas Unedig ddod â 1,004 o fudwyr i’r lan rhwng 4 ac 13 Awst, ac mae’r Swyddfa Gartref wedi cadarnhau i 89 lanio mewn pum cwch heddiw, a 48 mewn pedwar cwch ddoe.

Daw hyn â chyfanswm eleni hyd yma i 4,511 o leiaf, mwy na dwbl y nifer y credir eu bod wedi croesi drwy gydol 2019.

Y llynedd, roedd yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel wedi addo mai “anaml” y byddai mudwyr yn croesi’r Sianel erbyn hyn, ac yn ddweddarach mae wedi mynnu ei bod yn ceisio gwneud i deithiau o’r fath fod yn gwbl anymarferol.

Mae hi hefyd wedi cael ei beirniadu’n hallt am ddweud wrth ASau Torïaidd yr wythnos yma mai’r system lloches sydd ar fai a bod cyfreithwyr sy’n cefnogi Llafur yn ceisio rhwystro ymdrechion y Llywodraeth i allgludo pobl.

“Mae’r Ysgrifennydd Cartref yn chwarae politics efo bywydau pobl a thraddodiad balch y Deyrnas Unedig o amddiffyn ffoaduriaid,” meddai Bella Sankey, cyfarwyddwr yr elusen Detention Action.

“Mae llawer o’r cychwyn yn cynnwys amryw o blant gyda rhai ohonyn nhw’n rhy ifanc i gerdded. Mae’r strategaeth wleidyddol greulon yma’n beryglus a diangen – mae’n rhaid i’r Llywodraeth wneud yn well.”