Bu farw plismon wrth sgïo dŵr ger Pwllheli brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Awst 15).

Doedd e ddim wrth ei waith pan gwympodd oddi ar y cerbyd i mewn i’r dŵr am oddeutu 4.30yp.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw, ac fe gafodd ei dynnu o’r dŵr, ond bu farw er iddo fe gael triniaeth yn y fan a’r lle.

Mae ei deulu wedi cael gwybod, ac mae Heddlu’r Gogledd a Ffederasiwn Heddlu’r Gogledd wedi cydymdeimlo â nhw.

Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.