Wyddoch chi beth? Porc yw’r cig sy’n cael ei fwyta fwyaf ledled y byd! O’r pork chop i’r loin i’r belly a’r asennau. Tybed beth yw eich ffefryn chi? Yn ogystal â bod yn flasus iawn, mae hefyd yn ffynhonell protin a fitaminau gwerthfawr sy’n cynnwys fitamin B6, fitamin B12, a Thiamine a Niacin. Dyma’r bagét porc gyda gwahaniaeth. Mae’r bagét hwn yn bowld a lliwgar, ac yn wledd i’r synhwyrau… Gyda’r tywydd yn cynhesu, felly, ysgwydwch y llwch oddi ar eich basgedi picnic ac ewch ati i roi profiad i’ch teulu a’ch ffrindiau na fydd yn mynd yn angof am yn hir!
Beth fydda i ei angen?
8 baget
Porc 4lb
Caws (mozzarella ffres a tsili)
Nionyn coch
Rub ‘Hickory’ wedi’i fygu
Mwstard
Pupur gwyn
Naga
6 ŵy
Garlleg gwyllt (am ddim)
Olew olewydd
Mayonnaise (Medi-naise ydi o yn tŷ ni!)
Coginio
Rhwbiwch y porc gyda’r ‘rub hickory’ wedi’i fygu nes ei fod wedi’i orchuddio
Rhowch y porc yn y popty a’i goginio ar wres uchel i ddechrau (8 ar nwy) am ugain munud, ac wedyn troi’r gwres i lawr i 4 a’i adael i goginio am awr a 40 munud.
Tra bo’r cig yn coginio…
Torrwch nionyn coch a’i roi o’r neilltu
Torrwch chwe ŵy gan ofalu cael y melynwy yn unig i mewn i’r cymysgwr
Tywalltwch un llwy fwrdd o ddŵr oer i mewn i’r cymysgwr
Cynhwyswch llwy de o fwstard Dijon ynghyd â phupur a halen
Ar ôl golchi’r garlleg gwyllt yn iawn, cynhwyswch lond cledr llaw ohono a’i roi yn y cymysgwr
Cymysgwch bopeth (blitz o 10 eiliad, dair gwaith)
Wrth i’r cymysgwr droi, tywalltwch hanner cwpan o olew olewydd i mewn yn araf (mae hyn yn bwysig!)
Agorwch y cymysgwr a chymryd blas … Dylai’r cymysgedd edrych yn drwchus a blasu’n fendigedig!
Torrwch y bagetiau a gosod y caws ym mhob un
Tynnwch y porc o’r popty a’i dorri yn sleisennau tenau
Gosodwch y bagetiau yn y popty i feddalu’r caws.
Pan fo’r caws yn dripian o feddal, rhowch ddigonedd o borc ym mhob bagét ynghyd â’r nionyn coch.
Gwasgarwch ychydig iawn o naga ar bob bagét (mae hyn yn ddewisol, gan ei fod yn boeth iawn ac efallai ddim at ddant pawb)
Gwasgarwch y ‘Medi-naise’ garlleg gwyllt ar draws pob un… Plis peidiwch dal yn ôl!
Ewch amdani rŵan, a mwynhewch!