Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion bwyd rhai o wynebau cyfarwydd Cymru a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Wrth i filoedd heidio i Ŵyl Fwyd Caernarfon heddiw (dydd Sadwrn, 11 Mai) y Cynghorydd Dewi Jones, sy’n cynrychioli Ward Peblig, sy’n rhannu ei atgofion bwyd yr wythnos hon. Yn 27 oed, mae Dewi ar fin dod yn Faer ieuengaf Caernarfon a hefyd yn athro rhan-amser yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy…


 Pan o’n i’n tyfu fyny oeddan ni’n arfer mynd i dŷ Nain a Taid bob wythnos i gael cinio dydd Sul. Y Yorkshire pudding oedd y rhan gorau ac ro’n i’n cadw hwnna tan ola’.

Gesh i fy magu ar fwyd traddodiadol – cig, tatws, lobsgóws, tatws yn popty – y math yna o beth. Jar o Uncle Ben’s curry sauce oedd y peth mwya’ egsotig oeddan ni’n gael, a dw i wedi trio bod yn fwy mentrus. Wnes i astudio arlwyo fel TGAU yn yr ysgol ac ro’n i wastad yn mwynhau coginio.

Bwyd Eidalaidd yn Osteria, Caernarfon

Wnes i ddechrau gweithio yn Osteria, bwyty Eidalaidd yng Nghaernarfon, pan o’n i’n 16 oed. Roedden nhw’n ymfalchïo yn y ffaith eu bod nhw’n fwyty Eidalaidd go iawn – doedd dim chips a bara garlleg. Roedd y cynhwysion un ai yn lleol neu yn cael eu mewnforio o Tuscany. Roedd y perchnogion a’r cogydd yn dod o Fflorens, ac roeddan nhw’n gwneud bob dim yn y ffordd draddodiadol. Cafodd hwnna ddylanwad mawr arna’i. Do’n i erioed wedi bwyta olifau, na gwahanol gawsiau, a gwin ac ati. Ro’n i’n ffodus i gael gweithio yno a chael trio bob dim fel, os oedd pobl yn gofyn ‘be ydy hwn?’, o’n i’n gallu deud wrthyn nhw. Ges i fy nhrochi mewn diwylliant Tuscany. Wnes i gario mlaen i weithio yn Osteria nes o’n i’n 21 oed. Dw i dal yn ffrindiau efo’r perchnogion ac yn galw mewn am bryd yn aml.

Bwyd yn Bologna yn yr Eidal yn ddiweddar

Dw i’n bwyta bwyd mwy Ewropeaidd rŵan. Es i’r Eidal am bythefnos dros Pasg a mynd i’r bwytai llai, allan o’r ffordd, ac roedd hi’n braf ehangu gorwelion.

Mae bywyd mor brysur erbyn hyn dw i’n ffeindio’n hun yn bwyta’r un math o bethau o hyd ac mae’n rywbeth dw i angen trio newid. Does dim digon o amser i fynd i chwilio am ryseitiau ac ati. Dw i’n trio bwyta’n iach, ac yn tueddu i goginio pethau mewn bulk a’u rhewi nhw wedyn. Dyna oedd yn braf yn ystod y cyfnod clo, gallu tyrchu i chwilio am rysáit, ac roedd mynd i siopa yn achlysur mawr. Roedd amser i adael i bethau marinadu, ond yn anffodus rydan ni wedi dod ’nôl i’n bywydau prysur.

Y bwyd yn Sheeps and Leeks, Caernarfon

Yn ddiweddar ges i fy mhrofiad cynta’ o tasting menu yn Sheeps and Leeks yng Nghaernarfon. Dydy o ddim yn edrych yn ffansi o gwbl o’r tu allan ond mae’r bwyd yn anhygoel. Mae wedi ennill lot o wobrau a ballu. Oedd hwnna’n brofiad gwahanol a wnes i rili fwynhau a fyswn i licio gwneud eto. Dwi licio mynd i dafarndai neis fel y Black Boy yn dre’ a Pen y Bryn ym Mae Colwyn. Fy go to fel arfer ydy stêc a chips a’r trimins i gyd.

Dewi gyda’i fam adeg y Nadolig

Mae ogla’ nionod yn ffrio wastad yn mynd â fi nôl i noson tân gwyllt a Chalan Gaeaf achos dw i licio’r adeg yna o’r flwyddyn. Dw i’n cyffroi ychydig pan mae’n dechrau tywyllu a Dolig ar ei ffordd. Oeddan ni wastad yn mynd i weld tân gwyllt yng Nghaernarfon a dw i’n cofio oglau’r stondinau bwyd.

Mae Dewi yn hoffi gwneud lasagna mawr pan fydd pobl yn dod draw am fwyd

Os dw i’n cael pobl draw am fwyd mae’n well genna’i ganolbwyntio mwy ar eu cwmni nhw felly na’i baratoi rhywbeth o flaen llaw fel bod pobl yn gallu helpu eu hunain – fel arfer, lasagna mawr, salad a bara garlleg. Mae’n rhywbeth sy’n plesio pawb.

Dewi ar wyliau ym Mhortiwgal

Be’ sy’n arbennig am Ŵyl Fwyd Caernarfon ydy ei bod yn newid bob blwyddyn. Dw i wedi bod yn mynd bob blwyddyn ac wedi gweld sut mae wedi tyfu a datblygu. Dydy’r ŵyl heb ei chorlannu yn un rhan o’r dre a hefyd, am ei bod am ddim, dydy hi ddim yn rhwystr i neb. Hyd yn oed os ‘dach chi methu fforddio i wario lot dach chi’n gallu profi’r awyrgylch am ddim. Mae llawer o bobl wedi gofyn pam bo ni ddim yn parhau gyda’r nos – mae’n dod i ben am 5yh – ond y syniad oedd bod y dre’n perchnogi’r ŵyl a bod tafarndai yn rhoi adloniant eu hunain mlaen gyda’r nos a dyna beth sydd wedi bod yn digwydd. Mae pobl yn dod i Gaernarfon am y penwythnos ac mae llawer o fusnesau’n elwa. Mae’n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr sy’n gallu bod yn lot o waith ond be sy’n braf ydy cael y teimlad ei bod hi’n ŵyl organig ac yn dod o’r gymuned.

Bydd Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cael ei chynnal o 10yb – 5yh heddiw (11 Mai).