Bydd miloedd o bobl yn heidio i Ŵyl Fwyd Caernarfon heddiw (Dydd Sadwrn, 11 Mai) i fwynhau gwledd o gynnyrch lleol.

Yn ogystal â’i stondinau bwyd arferol fe fydd dwy ardal newydd y tro hwn – Pentref Bwyd Môr, ac ardal arbennig i deuluoedd yn Dros yr Aber.

Yn y Pentref Bwyd Môr yn Cei Llechi fe fydd arddangosfeydd coginio bwyd môr, stondinau, arddangosfa celf ryngweithiol, a hanes pysgota’r ardal ymhlith pethau eraill.

Un o’r rhai fydd â stondin yn y Pentref Bwyd Môr fydd Cwmni Bwyd Môr Menai o Borth Penrhyn ym Mangor. Gyda thua 90% o fwyd môr y Deyrnas Unedig yn cael ei allforio i wledydd eraill, mae’r cwmni yn angerddol dros annog mwy o bobol i fwynhau bwyd môr a physgod lleol o Gymru.

Wystrys

“Yn draddodiadol, mae pobl yng Nghymru wedi tueddu i fwyta cig coch. Beth ydan ni’n trio gwneud yw cyflwyno mwy o bobl i fwyd môr, fel crancod a chregyn gleision, ac yn enwedig pysgod lleol fel draenog y môr a hyrddyn,” meddai Mark Gray, un o gyfarwyddwyr y cwmni.

“Yn aml, dydy pobl ddim yn teimlo’n hyderus am baratoi bwyd môr fel cimychiaid, crancod, wystrys a chregyn bylchog. Felly mae mynd i wyliau bwyd yn gyfle arbennig i ddangos i bobl sut i agor wystrys a chregyn bylchog a choginio pethau fel cregyn moch (whelks).”

Mae cregyn moch yn fath arall o fwyd môr sydd ddim yn cael eu bwyta llawer yng Nghymru, meddai Mark Gray, gyda’r rhan fwyaf o’r rhai sy’n cael eu casglu yng Nghymru yn cael eu hallforio i Dde Corea.

Pysgod wedi’i ffrio mewn byn Brioche

Cregyn gleision mewn seidr

Ar y fwydlen ar eu stondin yn yr Ŵyl Fwyd heddiw fydd cregyn gleision wedi’u coginio mewn seidr a saws cennin, persli a garlleg, wystrys efo gwahanol ddresins, macrell wedi’i fygu gyda salad betys, ac un o’u prydau mwyaf poblogaidd sef pysgod wedi’i ffrio mewn byns Brioche gyda saws Tartar cartref a salad.

Os nad ydach chi’n cael cyfle i fynd i Ŵyl Fwyd Caernarfon heddiw, gallwch fwynhau danteithion Cwmni Bwyd Môr Menai mewn gardd furiog ger eu stondin ym Mhorth Penrhyn ym Mangor bob dydd Sadwrn yn ystod yr haf. Mae’r stondin yn gwerthu pysgod a bwyd môr o ddydd Mercher hyd ddydd Sadwrn bob wythnos.

Am ragor o fanylion ewch i dudalen Facebook Cwmni Bwyd Môr Menai.

Bydd yr Ŵyl Fwyd yn cael ei chynnal rhwng 10yb a 5yp.