Gallai hyd at 200 o swyddi fod mewn perygl ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae’r newyddion yn creu ansicrwydd yn y sefydliad a’r dref, meddai darpar faer Aberystwyth.
Yn ôl Elin Jones, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru Ceredigion, mae undeb sy’n cynrychioli gweithwyr y brifysgol yn rhagweld y bydd rhwng 150 a 200 o swyddi’n cael eu colli wrth i’r brifysgol geisio gwneud arbedion o £15m.
Ddoe (Mai 9), fe wnaeth yr is-ganghellor, yr Athro Jon Timmis, ddweud bod “newid sylweddol” i’r ffordd mae’r sefydliad yn gweithredu er mwyn ceisio arbed arian.
Bydd y brifysgol yn dechrau cynllun diswyddo gwirfoddol i ddechrau, meddai.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru fore heddiw (Mai 10), dywedodd Elin Jones bod yr undeb a hithau’n gobeithio y bydd rhan fwyaf o’r toriadau cael eu cynnig yn wirfoddol gan weithwyr sy’n penderfynu gadael.
“Rydyn ni’n dref brifysgol, rydyn ni’n ymwybodol fel Cyngor Tref o’r cwmwl ar y gorwel i holl sefydliadau addysg Prydain, nid dim ond Cymru ac Aberystwyth,” meddai Maldwyn Pryse, sy’n ddirprwy faer Aberystwyth ar y funud ond fydd yn dod yn faer fis yma, wrth golwg360.
“O ganlyniad i chwyddiant, ffioedd domestig wedi cynyddu gyda chwyddiant ers amser, cwymp yn y marchnadoedd recriwtio rhyngwladol, ac effaith ffioedd myfyrwyr ddaeth o ganlyniad i’r glymblaid rhwng y Rhyddfrydwyr Democrataidd a’r Torïaid – sy’n golygu bod y rhan helaeth o fyfyrwyr yn gadael prifysgol efo dyled o dros £45,000 – mae myfyrwyr yn meddwl ddwywaith cyn mynd i brifysgol.
“Mae hyn i gyd, yn naturiol, yn mynd i gael effaith.
“Mae Brexit yn naturiol wedi cael effaith hefyd.
“Mae’r cwmwl wedi bod ar y gorwel, roeddwn i’n gobeithio y byddai’r gwynt yn chwythu’r cwmwl i gyfeiriad arall ond dyw e ddim.”
Dywed Maldwyn Pryse bod diswyddiadau gwirfoddol yn “fan call i ddechrau”.
“Mae’r [brifysgol] yn un o brif gyflogwyr yr ardal, rho di ar ben hynny’r ffaith bod Ceredigion yn sôn am gau ysgolion a lot o ysgolion uwchradd a chynradd yn edrych ar golli staff.
“Rhoi’r cwbl at ei gilydd, mae’n gallu bod yn ddarlun gofidus iawn.”
Ar hyn o bryd, mae gan Brifysgol Aberystwyth tua 8,000 o fyfyrwyr a 2,000 o staff, a gall unrhyw doriadau o ran staff gael effaith ar niferoedd myfyrwyr hefyd, meddai Maldwyn Pryse.
“Byddai yna lai o bobol i fod yn y dref, llai o arian i gael ei wario mewn busnesau lleol – ac mae hynny ar ben trethi uchel i fusnesau yn ofid.”
Addysg am ddim i fyfyrwyr Cymru?
Ychwanega y byddai’n hoffi gweld Llywodraeth Cymru’n ystyried camau i geisio sicrhau bod myfyrwyr o Gymru’n penderfynu cael eu haddysg uwch yn y wlad.
“Beth fyddwn i’n ei hoffi yw bod y Llywodraeth yng Nghymru yn ystyried a thrafod yn agos efo Llywodraeth yr Alban i weld sut mae’r system yno’n sicrhau bod myfyrwyr sy’n aros yn yr Alban yn cael eu ffioedd wedi’u talu yn gweithio.
“Byddai hynny’n sicr o help i gadw myfyrwyr yng Nghymru, a byddai’r arian yma wedyn yn aros yng Nghymru ac yn hybu busnesau cynhenid.
“Rydyn ni’n barod iawn i ddathlu gyda’r brifysgol, ond pan fo’r brifysgol â phroblem fel hyn, rydyn ni’n barod iawn i rannu’r gofid.”
Derbyniodd Cyngor Tref Aberystwyth e-bost gan yr Athro Jon Timmis heddiw yn cynnig cwrdd i drafod ymhellach, ac mae hynny i’w groesawu, meddai’r darpar faer.
‘Llawn cydymdeimlad’
Dywed Alun Williams, Cynghorydd Plaid Cymru ward Morfa a Glais yn Aberystwyth, ei fod yn llawn cydymdeimlad tuag at drafferthion y brifysgol.
“Mae’r holl sector gyhoeddus, ac yn Aberystwyth mae hynny’n cynnwys y brifysgol, y Llyfrgell Genedlaethol, y Cyngor, yn dioddef yn ofnadwy yn sgil y toriadau sy’n dod o San Steffan,” meddai wrth golwg360.
“O ran y brifysgol, rydyn ni’n gwybod bod Brexit yn cael effaith eithriadol o niweidiol ar recriwtio myfyrwyr rhyngwladol – maen nhw mor werthfawr i’r brifysgol a’r dref.
“Mae gan y Cyngor berthynas wych â’r brifysgol, ac rydyn ni’n llawn cydymdeimlad.
“Byddai gennym ni ddiddordeb gwneud unrhyw beth i helpu, er enghraifft, mae’n bosib, drwy rannu adnoddau.
“Rydyn ni’n cydnabod ein bod ni i gyd yn y sector gyhoeddus yn yr un cwch ariannol ar y funud, a dw i’n meddwl bod angen i ni weithio gyda’n gilydd i gynnal gymaint â phosib o’r hyn rydyn ni’n ei ddarparu.”
Esbonia ei bod hi’n anodd rhagweld be fydd yn digwydd o ran colli swyddi, ond bod y brifysgol yn rhan “gwbl allweddol” o’r dref.
“Yr un fath â’r Llyfrgell Genedlaethol, felly’n amlwg mae’n bryder mawr iawn.
“Mae’r Cyngor yn barod iawn i archwilio posibiliadau ar gyfer cydweithio i liniaru’r trafferthion ariannol sydd gan y ddau gorff.”
‘Gweithio’n fwy effeithiol’
Er mwyn mynd i’r afael gyda’r sefyllfa ariannol, dywed yr Athro Jon Timmis bod y Brifysgol yn mynd i ddatblygu Rhaglen Drawsnewid a fyddai’n arwain at arbed costau gweithredol, a buddsoddi mewn ffyrdd newydd o gynhyrchu incwm.
“Bydd yn ein galluogi i weithio’n fwy effeithiol er mwyn arbed costau, a buddsoddi mewn prosiectau sy’n strategol bwysig ac a ddaw ag incwm ychwanegol a gwella profiad myfyrwyr,” meddai Jon Timmis mewn datganiad.
“Mae enw da iawn ein Prifysgol yn sail ar gyfer adeiladu arno; mae yma ymchwil o safon fyd-eang a hanes o gynnig profiad gwych i fyfyrwyr.
“Mae gennym rai o’r staff mwyaf ymroddedig ac amgylchedd a chymuned hyfryd a fydd bob amser yn gynnig deniadol fel lle i ddysgu.”
‘Ymgysylltu’n rheolaidd’
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw cydnabod y pwysau ariannol sydd ar sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig.
“Fel sefydliadau annibynnol, maent yn rheoli eu cyllidebau mewn amrywiaeth o ffyrdd,” meddai.
“Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ymgysylltu’n rheolaidd ac yn adeiladol ag arweinwyr y sector ar hyn.”