“Mae datganoli yn debyg iawn i omled… unwaith ti’n cracio’r wyau, does dim ffordd yn ôl.”
Dyma grynodeb Bethan Rhys Roberts wrth iddi groesawu gwesteion, gan gynnwys Seneddwyr presennol a’r gorffennol, i ddigwyddiad i ddathlu 25 mlynedd o ddatganoli.
“Edrychwch ar hynny, pwy fyddai wedi gallu rhagweld y canlyniad hwn? Maen nhw wedi croesi’r llinell ac wedi edrych ar y cyfrif olaf a dydyn nhw ddim yn gallu’i gredu fe. Mae’n gamp funud olaf.”
Dyma eiriau Huw Edwards ar y BBC, yn dilyn y refferendwm i sefydlu Cynulliad yng Nghymru ar Fedi 18, 1997. Ac yn wir, roedd y fuddugoliaeth yn ddramatig iawn wrth i’r bleidlais o blaid yng Nghaerfyrddin olygu bod y cyfanswm bleidleisiodd o blaid yn genedlaethol yn 50.3%.
Felly, o fethiant y bleidlais o blaid yn 1979 i’r bleidlais o blaid yn 1997 yn arwain at sefydlu’r Cynulliad yn 1999, mae’r gymhariaeth fod datganoli fel omled yn sicr wedi dod yn wir.
Datganoli drwy fethiant
Fel mae nifer wedi dod i wybod ar Y Byd yn ei Le, fe fu’r Athro Richard Wyn Jones yn sylwebu ar y cyfnod ers 1999 drwy lens dipyn bach yn wahanol i’r sylwebydd cyffredin.
“Rydym wedi symud ymlaen (efo datganoli) drwy fethiant cyfansoddiadol, yn hytrach na llwyddiant, sy’n hynod o ddiddorol,” meddai.
Fel dywedodd Dafydd Wigley a Jane Hutt, roedd cychwyn datganoli yn broses eithriadol o anodd, lle’r oedd hi’n anodd gwneud unrhyw beth chwyldroadol i bwysleisio bod datganoli wir ar y map gwleidyddol yng Nghymru.
Drwy oes LCO (neu Legislative Competance Orders), roedd Cynulliad Cymru yn dal yn gweithredu o dan gysgod San Steffan. A hynny tan refferendwm 2011 ar bwerau datganoli cynradd.
“Drwy gyfnod datganoli, dydy’r rhan fwyaf o bobol yng Nghymru ddim yn meddwl bod y lle yma yn gwneud gwahaniaeth, ond ar un pryd eisiau gweld mwy o bwerau!” meddai Richard Wyn Jones.
Mae delwedd yr omled a’r wyau’n gryf eto. Er bod teimlad nad yw pobol yng Nghymru yn hollol hapus efo’r Cynulliad, roedd yna ddigon o deimlad cadarnhaol fel bod 63% o etholwyr yn pleidleisio o blaid pwerau deddfu cynradd.
Pocedi gwag
Y thema fwyaf cyffredin yn ystod oes datganoli ym Mae Caerdydd ydi ariannu a phocedi gwag y Llywodraeth.
“Tan gawn ni’r adnoddau ariannol angenrheidiol, does dim rhyfedd bod gennym ni broblemau efo addysg neu efo iechyd, mae’n dwylo wedi’u clymu,” meddai Dafydd Wigley wrth dderbyn cymeradwyaeth ysgubol yn yr ystafell, gan gynnwys Jeremy Miles.
Bydd dyfodol y Senedd a Llywodraeth Cymru’n cael ei siapio gan setliad ariannol newydd i yn lle’r Fformiwla Barnett, os bydd yna un.
I’r Prif Weinidog, sydd efallai efo enw am fod yn agosach at Keir Starmer na’i wrthwynebydd i arwain y blaid, roedd gweld Jeremy Miles yn cytuno efo geiriau Dafydd Wigley mewn ffordd mor gadarn yn ailgodi’r cwestiwn ynghylch pwy oedd orau o’r ddau ymgeisydd, gan feddwl am allu’r Llywodraeth a’r Senedd yn y dyfodol i wneud mwy o wahaniaeth i fywydau pobol yng Nghymru.
Hanner ffordd i hanner cant
“Dwi’n cofio edrych ’nôl ar luniau du a gwyn o aelodau Seneddol sydd dal yma heddiw!”
Dyma jôc Sam Kurtz, un o aelodau ieuengaf y Senedd yn 32 oed, wrth i’r Ceidwadwr drafod cychwyn siwrne datganoli yng Nghymru.
I bobol fel fo – a finne hefyd – rydym wedi tyfu i fyny gyda datganoli yn rhan barhaus o’n bywydau yng Nghymru. I aelodau fel Elin Jones, sydd yn un o’r pedwar yn y ‘Class of 99‘ (Jane Hutt, Lynne Neagle a John Griffiths o Lafur yw’r tri arall), mae’r broses wedi bod yn un sydd wedi gorfod dal dychymyg pobol mewn oes pan nad oedd datganoli yn cael ei gymryd yn ganiataol.
Disgrifiodd y Llywydd Elin Jones yr wythnos o ddathliadau’r Senedd yn 25 oed, ochr yn ochr â’r bleidlais i ddiwygio’r Senedd i un fydd efo 96 aelod a system etholiadol wahanol, fel un “hiraethus”.
“Mae e’n wir i ddweud bod y Senedd yma o hyd, ond hefyd yma am byth,” meddai, gan ddyfynnu cân Dafydd Iwan sydd wedi dod yn gysylltiedig â diwylliant Cymru yn genedlaethol ac, erbyn hyn, yn rhyngwladol hefyd.
Felly, ar ôl 25 mlynedd o sefydliad a llywodraeth nad ydyn nhw efallai wedi cyrraedd eu prif amcanion ar bolisïau, does dim amheuaeth ei fod wedi sicrhau y bydd diwylliant gwleidyddol unigryw Cymru, fel mae Elin Jones yn dweud, yn bodoli am byth.