Mae pryderon y gallai creu parc cenedlaethol newydd yn y gogledd-ddwyrain wneud tai’n anfforddiadwy i bobol leol.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu creu parc cenedlaethol o amgylch Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ardal sydd gan ddynodiad Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn barod.
Pe bai’r cynlluniau’n mynd yn eu blaenau, y parc fyddai’r pedwerydd yng Nghymru.
Cafodd drafftiau o’r cynlluniau eu cyhoeddi gan Gyfoeth Naturiol Cymru fis Hydref y llynedd, ac maen nhw’n cynnwys rhannau o Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam a Phowys.
Roedd creu parc cenedlaethol newydd – y cyntaf ers 1957 – yn rhan o faniffesto Llafur pan wnaethon nhw ennill etholiad diwethaf y Senedd yn 2021.
Fodd bynnag, mae un o Aelodau’r Senedd Plaid Cymru wedi codi pryderon y gallai arwain at gynnydd mewn prisiau tai yn yr ardaloedd fyddai’n rhan o’r parc.
Dywedodd Llŷr Gruffydd, aelod rhanbarthol dros Ogledd Cymru, y gallai arwain at broblemau gyda pharcio a thraffig hefyd. Mae problemau gyda thraffig a pharcio wedi bod yn amlycach yn Eryri ers y cyfnodau clo.
Wrth siarad â Julie James, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Gynllunio, yn y Senedd ddoe (Mai 9), dywedodd ei fod yn ymwybodol bod yna “effeithiau posib o ran fforddiadwyedd tai yn yr ardal i drigolion lleol”.
“Dw i hefyd yn ymwybodol iawn o’r angen i fuddsoddi mewn seilwaith addas.
“Er faint y bydden ni’n croesawu ymwelwyr ychwanegol, rydyn ni angen osgoi sefyllfa sy’n adlewyrchu rhai o’r problemau yn Eryri, lle mae problemau wedi bod gyda pharcio, ffyrdd yn cael eu rhwystro gan geir a diffyg cyfleusterau cyhoeddus digonol.
“Pa sicrwydd fedrwch chi roi i ni, fel rhan o’r gwaith o baratoi at gael parc cenedlaethol newydd yn y gogledd-ddwyrain, bod yr holl ffactorau hyn yn cael eu hystyried?”
‘Ystyried yr holl fanteision ac anfanteision’
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gofyn i Gyfoeth Naturiol Cymru asesu’r achos dros gael parc cenedlaethol newydd, ac maen nhw wedi hysbysebu am ymgynghorwyr i wneud asesiad o’r ardaloedd fyddai’n rhan ohono.
Bydd rhaid iddyn nhw gyflwyno crynodeb o’u darganfyddiadau, gan gynnwys drafft o ffiniau’r parc.
Mae Cyfoeth Naturiol wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau i ymgynghori ar y cynlluniau, ac mae’r map dros dro’n cynnwys lleoliadau fel Dyffryn Ceiriog, Llyn Efyrnwy, Mynydd yr Hob a thraeth Gronant ger Prestatyn.
Wrth ymateb i bryderon Llŷr Gruffydd, dywedodd Julie James y bydd nifer o faterion yn cael eu hystyried cyn i gynlluniau ffurfiol gael eu cynnig.
“Rhan o’r broses ddynodi yw mynd trwy’r holl fanteision ac anfanteision… er mwyn dod i gasgliad sy’n siwtio trigolion yr ardal,” meddai’r Aelod o’r Senedd Llafur.
“Rydyn ni eisiau gwella, diogelu a chydnabod tirweddau hardd ledled Cymru, a sicrhau nad yw’r tirweddau hyn yn dioddef o ordwristiaeth, er enghraifft.
“Roeddwn i yn Eryri’n ddiweddar, ac roeddwn i’n clywed bod nifer o gerddwyr yn ystyried eu hunain yn warchodwyr i’r amgylchedd ond yn meddwl ei bod hi’n iawn iddyn nhw ollwng crwyn bananas ar y ffordd, oherwydd eu bod nhw’n credu eu bod nhw’n pydru.
“Mae’r ffaith bod y lle’n llawn pethau na ddylai fod yn yr amgylchedd hwn yn un o’r pethau maen nhw wedi bod yn gweithio’n galed arno.
“Roeddwn i’n drist i weld ystadegau sy’n dangos bod yna rywbeth sydd ddim i fod yno fesul bob dau gam i fyny prif lwybrau’r Wyddfa.
“Mae helpu parciau cenedlaethol i helpu ymwelwyr i ddeall effaith twristiaeth, a’r hyn fedran nhw ei wneud i wella’r amgylchedd yn hytrach na’i difetha, yn bwysig.”
Dywedodd Julie James bod disgwyl i benderfyniad terfynol ar y cynlluniau gael ei wneud flwyddyn nesaf.