Mae’r cadeirydd ieuengaf yn hanes Cyngor Gwynedd wedi dechrau yn ei rôl.

Y Cynghorydd Beca Roberts, sy’n 30 oed ac yn cynrychioli Plaid Cymru, fydd yn gwneud y gwaith yn lle’r Cynghorydd Medwyn Hughes, fu’n cadeirio’r cyngor am flwyddyn.

Cafodd Ioan Thomas, sy’n cynrychioli ward Menai yng Nghaernarfon, ei ethol yn is-gadeirydd hefyd.

Mae Beca Roberts, cynghorydd Tregarth a Mynydd Llandygai, yn gynghorydd ers mis Mai 2022, ac mae hi’n “teimlo’n gryf” bod cael cynrychiolaeth amrywiol o fewn awdurdod lleol yn “hollbwysig”.

“Fel person iau, dw i’n grediniol bod gennym ni le i ddylanwadu, agor drysau ac annog diddordeb mewn gwleidyddiaeth ymysg bobol ifanc eraill,” meddai Beca Roberts, wnaeth astudio Cynaliadwyedd a Rheolaeth Amgylcheddol yn y brifysgol gan weithio ar brosiectau a mentrau cymunedol yn ardal Dyffryn Ogwen wedyn.

“Roedd hi mor braf ennill sedd ar Gyngor Gwynedd, pan ddaeth criw iau ohonom i mewn.

“Bellach, mae 25% o Gynghorwyr y Blaid yng Ngwynedd o dan 40 oed a 43% ohonom yn ferched.

“Mae cael cychwyn fy ngyrfa wleidyddol gyda chriw iau wedi bod yn hyfryd gan ein bod ni wedi gallu pwyso ar ein gilydd a dysgu ar y cyd.

“Mae’r cynghorwyr profiadol wedi bod yn gefnogol iawn hefyd, yn estyn llaw ac yn dangos y ffordd i ni.”

“Her” cofio enwau

Bellach, mae Beca Roberts yn Swyddog Achos a Chynorthwyydd Seneddol rhan amser i’r Aelod o’r Senedd Plaid Cymru, Sian Gwenllian.

O fewn Cyngor Gwynedd, mae hi’n aelod o Fwrdd Pensiynau Gwynedd a Môn, Bwrdd Argyfwng Hinsawdd a Natur, y Pwyllgor Democratiaeth a’r Pwyllgor Craffu Cymunedau.

“Un o’r rolau dw i wir wedi ei fwynhau ers cael fy ethol yn gynghorydd ydy cefnogi’r Bwrdd Hinsawdd i fynd i’r afael â lleihau allyriadau carbon y cyngor,” meddai Beca Roberts.

“Dw i wedi bod yn rhannu fy mhrofiad yn y maes yma i gefnogi’r cyngor i weithredu prosiectau solar ar raddfa fawr a gweithredu fflyd ceir trydan.

“Mae’r rhain yn egwyddorion pwysig sydd angen sylw ar draws llywodraeth leol a chanolog i fynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu ym maes ynni.”

Dywed hefyd mai ei phrif her yn y swydd newydd fydd cofio enwau llawn y 68 o gynghorwyr sy’n eistedd ar Gyngor Gwynedd.

“Dw i wedi bod yn ymarfer ac ymarfer, ond a dweud y gwir, un sâl fues i erioed efo enwau,” meddai.

“Dyma fydd un o’r heriau fydd yn fy wynebu yn fy nghyngor llawn cyntaf fel cadeirydd.

“Ond dw i’n ffodus iawn i gael tîm gwych o swyddogion y cyngor o’m cwmpas, a’r cynghorydd profiadol, Ioan Thomas, Caernarfon i eistedd wrth fy ochr, fel is-gadeirydd newydd y cyngor.”

‘Caffaeliad’

Wrth ei llongyfarch, dywed Dyfrig Siencyn, arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, bod Beca Roberts yn “gaffaeliad” i swydd y cadeirydd.

“Mae’n swydd bwysig ac anrhydeddus ac yn un lle mae wyneb a llais Cyngor Gwynedd yn cael ei chynrychioli.

“Bydd Beca yn gaffaeliad i’r rôl ac yn dod a brwdfrydedd i’r gwaith.

“Estynnwn pob cefnogaeth iddi a dymunwn yn dda iddi yn ei blwyddyn bwysig fel cadeirydd.”