Llongyfarchiadau i chwi’r 17% cyfartalog wnaeth bleidleisio ar Fai 2 yma yng Nghymru. Da iawn, achos yn y gymdeithas ddifater ddiog sydd ohoni, yr etholiad hwn oedd y gwaethaf eto.
Chefais i’r un daflen drwy’r post, a welais i ddim placard na phoster yn fy mhatsh i o Ogledd Caerdydd. Yr unig adeg dw i’n ymwybodol o Gomisiynydd Heddlu a Throseddu yw pan fydd yn ymddangos ar y cyfryngau wedi rhyw helynt lleol neu’i gilydd. Roedd Alun Michael, cyn-Gomisiynydd Heddlu’r De, ar gyflog o £86,700 ac yn gyfrannwr piwis ar y naw ar S4C a Radio Cymru adeg terfysgoedd Trelái y llynedd, pan gafodd dau fachgen eu lladd mewn damwain beics trydan wrth ffoi rhag ‘y Glas’.
Mae’r Comisiynwyr wrthi ers 2012, ffrwyth clymblaid y Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol i ddisodli awdurdodau heddlu Cymru a Lloegr. Ie, yr hen fantra ‘Englandandwales‘ sy’n corddi rhywun bob tro mae darlledwyr o Lundain yn adrodd stori Lloegr-yn-bennaf. Tydi’r broblem ddim yn bod ym mharthau Celtaidd eraill y Deyrnas Unedig, na Manceinion Fwyaf hyd yn oed, sydd â’u hawdurdod a’u bwrdd eu hunain fel rhan o’u cyfundrefn ddatganoledig nhw. Mae’r PSNI ar waith yng Ngogledd Iwerddon ers 2001, a Police Scotland mewn grym yn yr Alban ers 2013 fel rhan o’r “most extensive form of criminal justice devolution…”
“Further legislation has led to the devolution of the drink-drive alcohol limit in 2012 and railway policing in 2016.”
(Gwefan Institute for Government)
Pam, felly, fod cyfraith a threfn Cymru yn dal yn nwylo haearnaidd Whitehall? Hyn er gwaetha’ sawl ymchwiliad ac ymgynghoriad, a galwadau rif y gwlith gan gomisiynau i drosglwyddo’r grymoedd i Dŷ Hywel.
Go brin y cewch chi fwy o awdurdod ar y mater na’r Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, cyn-Brif Ustus Cyfiawnder Cymru a Lloegr, awdur Comisiwn Thomas 2019 ac adroddiad dan y teitl Cyfiawnder yng Nghymru i Bobl Cymru. Y diweddaraf i fynnu datganoli yw’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru (2024), dan gadeiryddiaeth yr Athro Laura McAllister a’r cyn-Archesgob Rowan Williams. Mae’r adroddiad hwnnw’n nodi bod 48% o’r cyhoedd yn credu taw Prif Weinidog Cymru a’r Senedd ddylai fod yn gyfrifol am yr Heddlu, o gymharu â 40% a ffafrai Brif Weinidog y Deyrnas Unedig a San Steffan. Mae hyd yn oed penaethiaid ein pedwar llu yn ryw gynhesu at y syniad. Richard Lewis o Ddyfed-Powys a thestun y gyfres ddogfen Y Prif ar S4C, sydd fwyaf brwd o bell ffordd. “Yng Nghymru gallwn ni daclo problemau Cymru ar raddfa genedlaethol yn hytrach na gwneud pethau pedair ffordd,” meddai wrth y BBC y llynedd.
Mae Amanda Blakeman, ‘Prif Gopyn’ y Gogledd, yn poeni am effaith uno ar ei phartneriaeth â lluoedd Caer a Merswy wrth ddelio â drwgweithredwyr o fan’no sy’n defnyddio’r A55 i wneud drygau yn fan’ma. Dylai’r Prif Gwnstabl Blakeman fynd ar drip ymchwil i Lwcsembwrg fach, sydd wedi’i chwmpasu gan Ffrainc, Gwlad Belg a’r Almaen fwy, i weld beth ydi cydweithio trawsffiniol.
Syniad “twp” oedd ymateb Alun Michael i awgrym Richard Lewis uchod, gan ddadlau eu bod nhw wedi colli’r elfen o atebolrwydd lleol yn yr Alban wrth uno’r wyth llu rhanbarthol dan fantell Poileas Alba.
A dyna’r drwg efo gwleidyddion Llafur. Er gwaethaf sawl ymbil o Gymru, rhwng y pum undeb llafur sydd am symud grymoedd y gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid i Gaerdydd a Vaughan Gething eisiau trosglwyddo pwerau cyfiawnder a phlismona yn llwyr maes o law, mae aelodau San Steffan yn daeog ar y diawl. Dyna i chi Jo Stevens, Aelod Seneddol Canol Caerdydd, a ddywedodd, “We will not be looking at devolution of policing and justice” wrth raglen Politics Wales y BBC yn gynharach eleni, ac ymateb syfrdanol Carolyn Harris, Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe, ar Sharp End ITV ym mis Rhagfyr 2022.
“I wouldn’t be very enthusiatic to devolve policing… there are some things I would like to stay in Westminster, policing being one of them.”
Dirprwy arweinydd ‘Welsh Labour’, cofiwch! Felly, mae datganoli’n ddigon da i Andy Burnham, Maer Llafur Manceinion Fwyaf, ond nid i Vaughan Gething, Prif Weinidog Llafur Cymru.
Tydi preswyliad Keir Starmer yn ‘Nymbar Ten’ ddim yn edrych yn addawol iawn i ni mwya’ sydyn, nac ydi?