Fe’m cyhuddwyd echdoe o fod yn rhagfarnllyd. Do, wir. Fi? Myfi?! Yn rhagfarnllyd?! Os ydych yn synnu at y fath gyhuddiad yn fy erbyn, diolch i chi – ond mae’n amlwg nad ydych yn f’adnabod!

Cystal cyfaddef, o’m corun i’m sawdl, dw i’n gymhlethdod o ragfarnau, fel mae’r rhan fwyaf ohonom. Fel rheol, y sawl a ddywed nad oes ganddo ragfarnau yw’r person mwyaf rhagfarnllyd o bawb. Am wn i, llai na pherson yw’r hwnnw sydd yn ymateb i bopeth bob amser yn gwbl ddiduedd. Cymeriad digymeriad ydyw, lledwan, llwyd fel lludw.

Mae gen i ragfarn bendant yn erbyn rhai pethau, a rhagfarn sicr o blaid ryw bethau eraill. Mae gen i – fel chithau, ie, fel chithau – ragfarnau llenyddol, cerddorol, crefyddol, diwylliannol, addysgiadol, gwleidyddol; rhagfarnau am fwyd a diod. Felly, ie… un rhagfarnllyd ydwyf. Rhagfarnllyd am PowerPoint, am garafanau, am y Loteri Genedlaethol… A bod dim byd gwell gennych i’w wneud, gellid treulio eiliad neu ddwy yn dyfalu ai rhagfarn o blaid neu yn erbyn y pethau hyn sydd gennyf.

Maddeued y gwamalu. A bod, felly, yn gwbl dryloyw: mae gen i ragfarn yn erbyn oedolion sydd, o weld plant bach yn aros i groesi’r ffordd, yn croesi cyn i’r dyn bach gwyrdd ymddangos, ac o’r herwydd yn dysgu’r plant hyn mai mater o chwilio cyfle, nid aros cyfle yw croesi ffordd brysur. Mae gen i ragfarn yn erbyn y bobol hynny sydd yn gyson hawlio’r hawl i ddweud eu barn wrth eraill, ond fiw i chi ddweud eich barn yn ôl, gan fod eu croen hwythau yn deneuach o dipyn na’r croen eliffantaidd maen nhw’n ei ddisgwyl gan bawb arall. Mae gen i ragfarn finiog yn erbyn pobol – mae gormod ohonyn nhw yma yng Nghymru – sydd o chaise longue eu segurdod (diogi) yn mynnu chwilio bai yn yr hyn a wna eraill. Mae gen i ragfarn o blaid y bobol hynny sydd â’u ffydd yn ffordd o fyw – mawrygaf hwy am eu pethau gorau, gan faddau iddyn nhw bob gwendid wrth gofio’u rhagoriaethau.

Ie… un rhagfarnllyd ydwyf. Wrth gwrs fy mod i’n rhagfarnllyd, ac mi gredaf fod Duw yn rhagfarnllyd. Mae ganddo ragfarn bendant yn erbyn tlodi, newyn, tywallt gwaed, anghyfiawnder a phobol yn chwarae crefydd fel mae plant yn chwarae tŷ. Gan mai Duw yw Duw, mae ei ragfarn ar raddfa anferthol, dragwyddol. Os ydwyf o ddifri am wasanaethu’r Duw hwn, mae’n rhaid i mi gynnal a chadw rhagfarn yn erbyn ac o blaid yr union bethau mae ganddo yntau ragfarn yn eu herbyn ac o’u plaid.

A phwy a ŵyr, pe baen ni, bobol Dduw, ychydig yn fwy rhagfarnllyd am y pethau hynny sydd yn haeddu chwip ein rhagfarn, buasai llai o ragfarn yn ein herbyn am fod fel llo yn y llaid.