Enw llawn: Perry Wyatt / Enw Cosplay: KwazyCosplay
Dyddiad geni: (cyfrinach!)
Man geni: Caerdydd
Darlithydd Cynorthwyol ac awdur yw Perry Wyatt, sy’n byw yn Abertawe. Pe bai’n disgrifio’i hun mewn tri gair, agored, doniol a phenderfynol fyddai’r geiriau hynny. Ychydig a wyddai Perry y byddai cariad at ‘wisgo i fyny’ yn blentyn gyda’i chwiorydd yn troi’n ddiddordeb tanbaid yn ei blynyddoedd ifanc yn oedolyn. Un o’i phrif ddiddordebau bellach yw Cosplay, sef yr arfer o wisgo i fyny fel cymeriad o ffilm, llyfr, neu gêm fideo.
Mae unigolion sy’n ymddiddori yn yr isddiwylliant hwn yn gwisgo fel cymeriadau anime, cartwnau, llyfrau comic, manga, cyfresi teledu, perfformiadau cerddoriaeth roc, gemau fideo, ac mewn rhai achosion, cymeriadau gwreiddiol. Maen nhw’n mynychu confensiynau lle maen nhw’n cymysgu gyda chymeriadau eraill yn y digwyddiad ac yn ymgysylltu â’i gilydd gan drafod a rhannu diddordebau.
“Rhoddodd Cosplay allfa greadigol arall i mi ymdopi pan aeth pethau’n anodd yn ystod y cyfnod clo. Mae hefyd yn fy helpu i ddatblygu fy sgiliau crefftio sydd wedi cynnwys pethau y tu hwnt i wnïo fel steilio wigiau, gwaith coed, cerflunio ewyn ‘foam’, a defnyddio offer pŵer,” meddai Perry Wyatt.
“Munud dw i wedi creu’r wisg, mi fedra’i fwynhau gyda chefnogwyr eraill a siarad am yr hyn sydd gennym yn gyffredin, y pethau rydyn ni’n eu hoffi neu ddim yn eu hoffi. Mae’n ffordd wych o gysylltu â phobol.”
Un o’r digwyddiadau gorau iddi fod yn rhan ohono oedd yr MCM Comicon yn Llundain yn 2019.
“Ar wahân i’r stress o gyrraedd yno, es i gyda fy ffrind a dyma’r tro cyntaf erioed i mi wisgo fel cymeriad mewn cynhadledd cosplay. Mi gawson ni amser gwych ac ro’n i’n gwybod yn syth y byddai’n ddiddordeb gydol oes i mi. Byddwn i wir yn hoffi mynd i ddigwyddiadau Comicon mawr iawn yn San Diego neu Efrog Newydd. Dyma Valhalla y byd cosplay, ac mae safon y gwisgoedd yn wallgof!”
Mae’n dweud mai un o’r camsyniadau mwyaf am cosplay yw bod rhaid i unigolyn edrych ryw ffordd benodol er mwyn ymuno.
“Mae Cosplay ar gyfer pawb – hen ac ifanc. Gall fod yn gymaint o hwyl jest i fod yn nerd bach rhyfedd drwy’r dydd – rhowch gynnig arni!”
“Mae cost gwisgoedd dw i wedi’u creu hyd yma’n sicr yn y miloedd o ran gwerth. Gall pobol wario miloedd ar argraffwyr 3D, ewyn EVA, ac offer paentio i fireinio’u crefft. Dros y blynyddoedd, mae fy nghasgliad wedi tyfu – ond mae gen i lawer pellach i fynd.
Os nad ydych chi wedi ceisio gwneud gwisg neu heb fod i gonfensiwn cosplay, does dim i boeni amdano, meddai.
“Mae’n rhaid i bawb ddechrau yn rhywle, felly peidiwch â digalonni os nad yw rhywbeth yn gweithio y tro cyntaf. Byddwch yn dysgu ac yn tyfu gydag amser ac amynedd! Hefyd, mae YouTube yn ffynnon gwybodaeth ar gyfer cosplayers newydd – ewch i fwrw golwg arni!
“Mae’r diwylliant Cosplay wedi’i wreiddio mewn mynegiant creadigol, cariad a chreadigrwydd. Mae diwylliant Cosplay yn ymwneud â chymuned a mynegi eich cariad at sioeau, llyfrau, ffilmiau, neu hyd yn oed celf trwy eich arddull. Mae’n ymwneud â dyfeisio a dychymyg – yr unig limit yw chi eich hun.”
Gair cymysg yw cosplay o’r termau Saesneg gwisg (Cos) a chwarae (play). Cafodd y term ei fathu gan Nobuyuki Takahashi, ar ôl iddo fynychu Confensiwn Ffuglen Wyddonol y Byd (Worldcon) 1984 yn Los Angeles, a gweld cefnogwyr mewn amrywiol wisgoedd. Ysgrifennodd amdanyn nhw yn ddiweddarach mewn erthygl ar gyfer y cylchgrawn Siapaneaidd My Anime.