Dyma eitem lle mae siaradwyr newydd yn cael cyfle i adolygu eu hoff raglenni ar S4C gan ddweud beth sydd wedi helpu nhw ar eu taith i ddysgu Cymraeg. Y tro yma, Wendy Parry o Swydd Henffordd sydd wedi ysgrifennu adolygiad o’r gyfres sebon Pobol y Cwm ar S4C.
Mae Wendy wedi bod yn dysgu Cymraeg ers mis Medi 2021. Dechreuodd ddysgu ar ôl cymryd ymddeoliad cynnar pan gollodd ei swydd. Mae hi’n dysgu ar-lein gyda Sir Gâr a Gwent.
Wendy, beth ydy dy hoff raglen ar S4C?
Fy hoff raglen ar S4C, ar hyn o bryd, yw Pobol Y Cwm.
Pam wyt ti’n hoffi’r rhaglen?
Dw i’n meddwl bod y cymeriadau’n hwyl. Dw i’n gwylio gydag isdeitlau Saesneg fel arfer ond dw i’n gwrando yn ofalus ar yr actorion.
Pam mae’r rhaglen yn dda i bobl sy’n dysgu Cymraeg?
Mae’n dda i bobl sy’n dysgu Cymraeg achos maen nhw’n siarad fel pobl go iawn! Dw i wedi dysgu sawl peth gan y cymeriadau, er enghraifft “fi sy ‘ma” (ar y ffôn) a “dere mewn”.
Ydyn nhw’n siarad iaith y De neu’r Gogledd?
Dw i’n siarad iaith y de, wel trio! Mae’r actorion yn siarad iaith y de yn bennaf.
Faset ti’n awgrymu i bobl eraill wylio Pobol y Cwm?
Baswn i’n awgrymu i bobl eraill wylio’r rhaglen. Dw i’n edrych ymlaen bob wythnos i weld beth sy’n digwydd nesa.
Pobol Y Cwm, bob nos am 8yh, S4C