Mae cerdd a achosodd gynnwrf yn yr ugeinfed ganrif gan ei bod hi’n trafod perthynas rhwng dau ddyn wedi cael ei gosod ar gerddoriaeth a’i rhyddhau fel sengl heddiw (Mai 10).
Ganrif yn union yn ôl yn 1924, enillodd E. Prosser Rhys y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pŵl am bryddest ar y testun ‘Atgof’.
Ar y pryd, creodd y gerdd gynnwrf gan ei bod hi’n sôn am berthynas hoyw rhwng dau ddyn ac yn trafod rhyw yn agored.
Er mwyn dathlu’r garreg filltir, mae Eryrod Meirion, sy’n gôr gwerin o gyffiniau Llanuwchllyn ger Y Bala, wedi comisiynu Gavin Ashcroft i wneud trefniant arbennig o ddetholiad o’r gerdd ar gyfer cerdd dant.
“Mae’n anodd iawn i ni, yn yr oes fodern hon, ddeall hyd a lled dewrder Prosser Rhys yn ysgrifennu’r gerdd hon ar gyfer cystadleuaeth y Goron,” meddai Branwen Haf Williams, arweinydd y côr.
“Mae arnon ni ddyled enfawr i bobol feiddgar, arloesol fel Prosser am fraenaru’r tir.
“Hebddo fo a’i debyg, prin y byddai’r camau breision ymlaen a welwyd yn ystod yr ugeinfed ganrif tuag at gydraddoldeb wedi digwydd o gwbl.
“Mae’n diolch ni’n fawr i Gavin Ashcroft am baratoi gosodiad godidog sy’n gwneud cyfiawnder llwyr â’r geiriau, i Ifan Jones am gynhyrchu’r recordiad efo’i ofal arferol ac i Dafydd Huws am baratoi fideo graenus i gyd-fynd â’r recordiad.”
‘Chwyldroadol’
Mae fersiwn Eryrod Meirion o ‘Atgof’, sy’n cael ei rhyddhau gan Recordiau Maldwyn, allan ar y platfformau cerddoriaeth heddiw, ac mae fideo gerddoriaeth i’w gweld ar blatfform AM.
Un aelod o’r côr ydy Meilir Rhys Williams, actor sy’n wyneb rheolaidd ar Rownd a Rownd ac yn Cabarela, ac sy’n cyd-gyflwyno, Esgusodwch fi?, podlediad sy’n trafod yr hyn mae’n ei olygu i fod yn aelod o’r gymuned LHDTC+ yng Nghymru.
“Fel dyn hoyw, dw i wrth fy modd ein bod ni fel côr wedi gallu rhyddhau’r recordiad hwn i ddathlu canmlwyddiant ‘Atgof’,” meddai Meilir Rhys Williams.
“Roedd gweithred Prosser Rhys yn un chwyldroadol, ac mae’n hollbwysig ein bod ni’n cofio’r rhai a fu’n brwydro mor galed am hawliau mewn oes wahanol iawn i’n dyddiau ni.”