Mae dros 50 o bobol o Wlad y Basg wedi glanio yng ngogledd Cymru ers ddoe (Mai 9) – i wneud dawns y glocsen.

Fe fydd y criw sy’n dod o ysgol gelfyddydol Herri Arte Eskola, Gipuzkoa, sydd ar ffin ogleddol â Ffrainc, yn perfformio gyda chriw bach o Gymry yn Venue Cymru, Llandudno heno (nos Wener, Mai 10), mewn noson o’r enw ‘Twmpath Cymru x Gwlad y Basg’.

Y perfformwyr o Gymru yw’r dawnsiwr a’r clocsiwr Angharad Harrop, y canwr Gwilym Bowen Rhys, y chwaraewr ffidil Patrick Rimes a’r grŵp Lo-Fi Jones, enillwyr Brwydr y Bandiau Gwerin yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd.

Yna fe fydd yr holl griw, ac eithrio Lo-Fi Jones, yn mynd ymlaen i Wrecsam i berfformio yng ngŵyl Focus Wales, ac yna i lawr i Gasnewydd i berfformio yng Ngŵyl Werin Tŷ Tredegar am hanner dydd ddydd Sul (Mai 12).

“Felly mae gyda ni dipyn o benwythnos o’n blaenau!” meddai’r Dr Angharad Harrop, sydd wedi trefnu’r noson yn Venue Cymru yn enw Cywaith Dawns, wrth golwg360.

Hi sydd yn hyfforddi criw o glocswyr ifanc Aelwyd yr Urdd Menter Madoc a fydd yn perfformio ar y prom yn Llandudno bore fory (Sadwrn) gyda chriw o bobol ifanc o Wlad y Basg.

Mae Menter Madoc yn un o aelwydydd diweddaraf yr Urdd, yn cynrychioli’n fras ardal Llandudno, Cyffordd Llandudno a Bae Colwyn.

Angharad Harrop (yn y crys brown) yn clocsio gyda’r Basgwyr

Hanes y cysylltiad

Dechreuodd y cyswllt gydag ysgol gelfyddydol Herri Arte Eskola, Gipuzkoa diolch i’r cerddor Gwilym Bowen Rhys.

“Mae hi’n anodd esbonio beth yn union ydy’r ysgol yng Ngwlad y Basg achos does yna ddim ffasiwn beth yng Nghymru,” meddai Angharad Harrop.

“Maen nhw’n rhoi gwersi canu ac offerynnol, ond maen nhw’n gwneud mwy o bethau hefyd – gwersi llenyddiaeth, barddoniaeth, coginio, pob math o ddawns fel ballet, tap, jazz, modern a dawnsio gwerin o Wlad y Basg.

“Mae o’r un fath ag Ysgol Glanaethwy meets Canolfan Gerdd William Mathias meets Dawns i Bawb achos maen nhw i gyd yn yr un lle. Mae’n anhygoel o le.”

Yn wreiddiol roedd yr ysgol wedi gwahodd Gwilym Bowen Rhys i greu perfformiad ar gyfer yr ysgol yn plethu diwylliant Gwlad y Basg a diwylliant gwerin Cymru.

Dyma fe wedyn yn gwahodd Angharad Harrop, sy’n ddawnsiwr proffesiynol, a’r cerddor gwerin Patrick Rimes, i fynd allan gydag e i Wlad y Basg i greu’r perfformiad ym mis Mawrth y llynedd.

Bu’r criw allan yno eto ym mis Medi i berfformio mewn gŵyl o’r enw Atlantikaldia.

Angharad Harrop (ail o’r chwith, mewn crys brown) yn clocsio gyda’r Basgwyr yng Ngwlad y Basg ym mis Medi 2023

“Roedd yr ŵyl yn anhygoel,” meddai Angharad Harrop. “Roeddwn i wedi dysgu criw o bobol ifanc yno sut i wneud clocsio, ac roedden nhw’n gwneud clocsio yna.

“Mi oedden nhw’n dawnsio gwerin Cymreig, yn gwneud dawnsfeydd fel ‘Y Delyn Newydd’ a ‘Cylch Cymru’, ac yn gwneud eu dawnsfeydd nhw.

“Roedd Gwilym yn canu yn yr iaith Fasgeg – mae o wedi dysgu ambell gân Fasgeg. Roedd yn gymysgedd o bob math o bethau o Gymru a Gwlad y Basg.”

Lo-fi Jones am godi hwyl

Y cam nesaf felly oedd gwahodd y Basgwyr i ogledd Cymru a chynnal noson hwyliog debyg yma, gyda’r Basgwyr yn rhoi cynnig ar y dawnsfeydd Cymreig yn ogystal â’u dawnsfeydd traddodiadol nhw.

“Maen nhw’n dod aton ni yn Llandudno, lle byddwn ni’n cynnal twmpath i gael pawb mewn hwyliau da,” meddai.

“Mae Clocswyr Conwy yn dod, i wneud bach o gyfnewidfa gelfyddydol efo nhw. Fe fyddan nhw’n gwneud dawnsfeydd o Wlad y Basg ac o Gymru hefyd.”

Fe fydd grŵp Lo-Fi Jones yn dod i’r llwyfan gyntaf i danio’r noson a rhoi hyder i bawb symud a dawnsio. Yna bydd Lo-Fi Jones a Gwilym Bowen Rhys yn dod at ei gilydd i ffurfio grŵp cyfeilio’r Twmpath.

“Roedd o’n swnio’n wych yn yr ymarferion,” meddai Angharad Harrop.

“Mi gawn ni noson hyfryd yn Llandudno gobeithio, wedyn mi fydd Menter Madoc, ein clocswyr bach ni, yn perfformio ar y promenâd efo’r bobol ifanc o Wlad y Basg fore dydd Sadwrn. Ac rydan ni’n mynd yn syth i berfformio yn Focus Wales, ac yna i Dŷ Tredegar.”

Y disgrifiad yn yr iaith Fasgeg o’r noson ‘Twmpath Cymru x Gwlad y Basg’ yw ‘uska Herriko eta Cymruko musika eta dantza gaualdia.’