Beth Angell yw Pennaeth Adloniant ac Adloniant Ffeithiol newydd S4C.
Bydd hi’n dechrau yn ei swydd fis nesaf, gan olynu Elen Rhys, sy’n gadael ar ôl bron i ddegawd yn y rôl.
Mae Beth Angell yn gynhyrchydd profiadol sydd wedi gweithio fel cynhyrchydd cyfres ac uwch-gynhyrchydd i nifer o gwmnïau teledu blaenllaw Cymru.
Mae ei gwaith yn cynnwys nifer o wahanol genres, gan gynnwys adloniant, comedi a cherddoriaeth, ac yn ddiweddar roedd yn gynhyrchydd cyfres a chyfarwyddwr ar y gyfres realiti Tanwen & Ollie.
Bu hefyd yn cynhyrchu cyfresi llwyddiannus Prosiect Pum Mil a Iaith ar Daith, a bu hefyd yn gweithio ar ddarllediadau S4C o Eisteddfod yr Urdd ac Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.
‘Edrych ymlaen at yr her’
“Mae’n amser cyffrous iawn i fod yn ymuno â’r tîm yn S4C ac rwy’n edrych ymlaen at yr her,” meddai Beth Angell.
“Yn ystod fy neng mlynedd ar hugain yn gweithio ar raglenni adloniant, rwy’ wedi dysgu cymaint gan fentoriaid gwych.
“Mae’r mentoriaid yma wedi fy helpu ar fy nhaith i gyrraedd y rôl yma.
“Hoffwn ddiolch i S4C am y cyfle i weithio i ddarlledwr rwy’n ei werthfawrogi a’i barchu cymaint, ac yn gobeithio y bydd fy mrwdfrydedd yn cyfrannu at y diwydiant teledu yng Nghymru.”
‘Cyfoeth o brofiad a syniadau creadigol’
“Rydym ni yn falch iawn i gyhoeddi y bydd Beth Angell yn ymuno ag S4C, gan ddechrau ar ei rôl newydd fis nesaf,” meddai Geraint Evans, Prif Swyddog Cynnwys dros dro S4C.
“Bydd Beth yn ychwanegiad ardderchog i’r tîm comisiynu, ac mae hi’n dod â chyfoeth o brofiad a syniadau creadigol gyda hi.
“Hoffwn hefyd dalu teyrnged i Elen Rhys am ei chreadigrwydd, ei hangerdd a’i hymroddiad i’r rôl dros y naw mlynedd diwethaf, ac rydym yn dymuno’n dda iddi ar gyfer y dyfodol.”