Mae Cymro oedd yn un o’r cystadleuwyr yn y gyfres deledu realiti boblogaidd The Traitors eleni wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn gobeithio manteisio ar ei ddilyniant mawr ar y cyfryngau cymdeithasol i hybu iechyd meddwl.
Roedd Andrew Jenkins o Donysguboriau wedi bod mewn damwain car ddifrifol 24 mlynedd yn ôl, ac yntau â’i fryd ar fod yn chwaraewr rygbi.
Ac yntau bellach yn 45 oed, dywed ei fod e wedi dysgu sut i oresgyn pyliau o iechyd meddwl gwael, ac mae’n defnyddio’i statws fel ffigwr cyhoeddus ar y cyfryngau cymdeithasol i helpu eraill sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi â’u bywydau.
Y gyfres
Yn y gyfres The Traitors, mae dwy garfan o bobol – y ‘Traitors’ a’r ‘Faithfuls’ – yn ceisio cael y gorau ar ei gilydd er mwyn ennill gwobr ariannol sylweddol.
Caiff y ‘bradychwyr’ eu dewis gan y gyflwynwraig Claudia Winkleman ar ddechrau’r gyfres.
Caiff y cystadleuwyr eu dileu o’r gyfres ar sail pleidlais ymhlith y bradychwyr a’r ffyddloniaid wrth y bwrdd ‘Round Table’, tra bo gan y bradychwyr bwerau arbennig i ddewis ffyddloniaid i gael gwared arnyn nhw.
Yn yr un modd, gall y bradychwyr ddewis un o’r ffyddloniaid i ymuno â nhw, gan eu hachub nhw rhag y bleidlais.
Yn y bleidlais derfynol, os oes bradychwr ymhlith y cystadleuwyr terfynol, y bradychwyr sy’n ennill y wobr ariannol ac mae’r ffyddloniaid yn mynd adre’n waglaw.
Ond os gall y criw cyfan adnabod y bradychwyr a’u dileu nhw cyn y rownd derfynol, y ffyddloniaid sy’n ennill y wobr a’r bradychwyr sy’n mynd adre’n siomedig.
Dechrau’n ffyddlon…
Dechreuodd Andrew Jenkins y gyfres fel un o’r ffyddloniaid, felly sut fath o gymeriad yw e, tybed?
“Dw i’n berson da, gonest, yn gweithio’n galed, yn ddyfal, yn wydn, a dw i’n ffyddlon i fy ffrindiau,” meddai wrth golwg360.
Sut oedd e’n teimlo, felly, pan fu’n rhaid iddo fe wynebu penbleth mawr – ymuno â’r bradychwyr neu fynd adref o’r gyfres a cholli’r cyfle i ennill y wobr ariannol?
“Er fy mod i’n chwarae gêm, doeddwn i ddim yn hoff o orfod newid oherwydd mae gen i foesau da,” meddai.
“Roedd hi’n anodd, ond gêm yw hi ar ddiwedd y dydd.
“Fe wnes i gadw fy nhraed ar y ddaear drwy gydol y gyfres gyfan.
“Dw i’n gwybod fod gan bobol fywydau tu allan i’r gyfres, ac unwaith mae’n gorffen maen nhw’n mynd yn ôl at eu teuluoedd.
“Gêm yw hi – gêm ddwys ac yn gêm o fath gwahanol – ond byddai fy mrodyr wedi gwylltio tasen i wedi gadael y gêm yn gynnar!”
Troi’n fradychwr
O ystyried y rhinweddau sydd ganddo fe, felly, pa mor anodd oedd dod yn fradychwr wrth i’r gyfres fynd yn ei blaen?
“Dw i’n foi chwaraeon, dw i wedi gwneud chwaraeon drwy gydol fy mywyd a dw i’n gystadleuol,” meddai.
“Pe bawn i heb dderbyn eu cynnig, byddwn i wedi cael fy lladd y diwrnod canlynol a byddwn i wedi bod allan o’r gêm.
“Mae’r bobol sy’n bwysig i fi’n gwybod pwy ydw i fel person, maen nhw’n fy ngharu i, ac maen nhw’n gwybod mai gêm yw hi.
“Mae fy mam a ‘nhad yn eu 70au a’u 80au, felly dydyn nhw ddim yn deall yr holl fusnes teledu realiti ac ati, a dydyn nhw ddim yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.
“Maen nhw’n bobol hyfryd, ond yn hen ffasiwn a does ganddyn nhw ddim rhyngrwyd yn y tŷ, erioed wedi bod ar awyren, erioed wedi gyrru car…
“Dydyn nhw ddim yn deall iechyd meddwl oherwydd maen nhw’n dod o genhedlaeth lle rydych chi jyst yn ymwroli ac yn bwrw iddi.
“Maen nhw’n falch iawn o bopeth dw i’n ei wneud.
“Dw i ddim wir yn dweud popeth dw i’n ei wneud, dw i jyst yn bwrw iddi ac yn dweud wrthyn nhw bob hyn a hyn.
“Maen nhw’n falch ohonof fi a’r sioe, mae fy mrodyr yn falch ohonof fi, ond yn bwysicaf oll mae fy mab yn falch ohonof fi.”
Tensiwn ar y teledu
Roedd diweddglo’r gyfres yn un cyffrous, gyda Mollie Pearce yn methu dyfalu yr enillydd Harry Clark yn fradychwr a phleidleisio i’w ddileu o’r gyfres cyn iddo fe fynd yn ei flaen i gipio’r wobr o £95,100.
Ond sut roedd Andrew Jenkins yn teimlo o fod yng nghanol y cyffro?
“Doeddwn i ddim yn sylweddoli maint y tensiwn ar y diwedd, oherwydd unwaith wnes i adael y bwrdd crwn, doeddwn i ddim wir yn gwybod beth oedd yn digwydd.
“Doeddwn i ddim yn gwybod beth ddigwyddodd yn y diwedd nes i fi wylio’r teledu, yr un fath â phawb arall!
“Doedden ni ddim wedi cael gwylio’r fersiwn wedi’i golygu tan ei bod hi ar y teledu, felly roeddwn i’n eistedd bob nos gyda’r teulu yn aros iddi ddod ar y teledu.
“Doeddwn i ddim yn gallu cofio popeth, gan fod misoedd wedi mynd heibio, a doeddwn i ddim yn gwybod sut fydden nhw’n ei golygu – maen nhw’n glyfar iawn – ond dw i’n credu bod pawb wedi dod drosodd yn dda ac roeddwn i’n bles â’r fersiwn derfynol.
Poblogrwydd y gyfres
Ac yntau bellach wedi cael bod yn gystadleuydd ac yn wyliwr, tybed pam fod y gyfres wedi cydio yn nychymyg y gynulleidfa?
“Mae hi’n gêm anarferol, ac mae hi’n wahanol iawn,” meddai.
“Mae pobol yn hoffi’r cymeriadau hefyd, yn ddynion a menywod cyffredin, yn bobol gyffredin â straeon a chefndiroedd da.
“Mae pobol yn gallu uniaethu â phobol gyffredin.
“Mae miliynau o bobol bellach yn gallu uniaethu â fi, er enghraifft, gan nad yw fy magwraeth yn wahanol i fagwraeth miliynau o bobol ledled y Deyrnas Unedig.”
Ac fel miliynau o bobol eraill, mae Andrew Jenkins wedi wynebu cyfnodau anodd yn ei fywyd, gyda’r ddamwain yn ei ugeiniau wedi cael effaith hirdymor ar ei iechyd meddwl.
“Er nad oes angen i chi fod wedi cael damwain car i fod wedi cael trawma, trawma yw trawma ar ddiwedd y dydd.
“Gallech chi dorri bys, a gallai hynny achosi trawma i chi.
“Gall miliynau o bobol uniaethu nawr â boi cyffredin sydd wedi cyflawni’r hyn dw i wedi’i gyflawni.
“Es i ddim i’r brifysgol, dw i ddim yn berson sydd wedi cael ‘addysg’, ond dw i wedi goresgyn hynny a gall unrhyw un wneud yr un fath â fi.
“Wnes i ddim talu miloedd o bunnoedd am gwnsela na therapi, wnes i’r cyfan fy hun.
“Mae modd i unrhyw un sy’n ei chael hi’n anodd wneud hynny.”
Hybu iechyd meddwl yw’r peth pwysicaf oll
Roedd y cyfle i gael llwyfan ar gyfer ei waith ym maes iechyd meddwl yn bwysicach nag unrhyw beth arall i Andrew Jenkins.
Dywed mai dyma’i unig reswm dros fynd ar y gyfres, ac yntau wedi cael gwahoddiad i wneud cais i fod yn gystadleuydd.
“Mae’n eithaf swreal, oherwydd daethon nhw ata i a gofyn oeddwn i eisiau bod ar y sioe,” meddai.
“Ges i neges ar un o fy nhudalennau Instagram, Strength in You, sy’n trafod cryfder meddyliol a lles.
“Roeddwn i wastad wedi bod eisiau trafod iechyd meddwl a lles cyn y sioe.
“Ges i neges yn dweud, ‘Rydyn ni’n dwlu ar eich tudalen a’ch stori, ydych chi’n awyddus i wneud cais i’r sioe?’
“Roeddwn i’n meddwl mai jôc oedd y cyfan ar y dechrau, ond wnes i feddwl y bydden i’n rhoi cynnig arni a gwneud cais.
“Y rheswm es i ar y sioe oedd i ddangos i bobol fod modd cael trawma yn eich bywyd, dioeddf â’ch iechyd meddwl, cael creithiau ac ati, ond gallwch chi droi eich bywyd o gwmpas a chyflawni pethau gwych.
“Dw i’n gweithio â phobol o bob math o gefndiroedd gwahanol, yn bennaf gyda phobol sy’n dioddef â’u hiechyd meddwl.
“Iechyd meddwl yw’r peth dw i wedi’i chael yn fwyaf anodd ers dros ugain mlynedd.
“Mae un ym mhob tri o bobol wedi gwylio The Traitors, felly dw i wedi creu rhwydwaith enfawr ar LinkedIn, Instagram, Facebook ac ati – pobol sy’n ddylanwadol mewn busnesau mawr, llywodraethau, y Brifysgol Agored ac ati.
“Mae pobol wedi fy ngweld i ar y teledu, ac wedi gweld fy stori, felly dw i’n clywed gan lawer o bobol wahanol yn gofyn i fi fynd i siarad yn eu hysgolion, eu prifysgolion neu eu cwmnïau, felly mae’n fater o gael fy neges allan nawr a thorri’r stigma.”
Cyngor i gystadleuwyr y dyfodol
Felly pa gyngor sydd gan Andrew Jenkins i gystadleuwyr y dyfodol ar The Traitors?
“Cadwch eich traed ar y ddaear, a dywedwch wrthoch chi eich hun eich bod chi’n berson da,” meddai.
“Mae gennych chi deulu a chefnogaeth o’ch cwmpas.
“Roedd gen i luniau o gwmpas fy ystafell wely, ac roeddwn i’n meddwl ’mod i’n mynd yn wallgof, oherwydd byddwn i’n siarad â’r lluniau bob bore cyn mynd i’r castell, ac ar ddiwedd y dydd hefyd.
“Byddai’r seicolegydd yn dod i’n hystafelloedd bob hyn a hyn i wneud yn siŵr ein bod ni’n iawn, a byddwn i’n dweud wrthi, ‘Ydw i’n mynd yn wallgof? Dw i’n siarad â’r lluniau!’
“Ond rydych chi’n cael gwared ar bethau, a ddim yn cadw pethau i mewn.
“Mae gen i lawer o ddulliau o ymdopi dw i wedi’u dysgu dros y pedair neu bum mlynedd diwethaf.
“Gallwch chi fynd ar goll yn y gêm a cholli gafael arnoch chi eich hun – dyna wnaeth un boi wrth y bwrdd crwn, ac roeddwn i’n teimlo drosto fe, ond dw i’n dweud bod rhaid i chi fod yn chi eich hun.
“Dim ots beth sy’n digwydd, mae’r teulu’n dal yn fy ngharu i.
“P’un a oeddwn i’n ffyddlon, yn fradychwr, yn dweud y gwir, yn dweud celwyddau, gêm oedd hi yn y pen draw, a rhaglen deledu.
“Roedd fy nheulu dal yn fy ngharu i pan wnes i adael y castell, waeth beth oeddwn i wedi’i wneud, oherwydd maen nhw’n gwybod pwy ydw i fel person.”
Bywyd ar ôl y sioe
Beth, tybed, mae Andrew Jenkins wedi’i ddysgu o’r profiad o fod yn rhan o’r gyfres?
“Mae hi wedi gwneud i fi sylweddoli bod mwy mewn bywyd nag arian ac ennill, am wn i!” meddai.
“Dros y blynyddoedd diwethaf, dw i wedi bod ar daith enfawr.
“Dw i wedi newid yn llwyr fel person, a dw i wedi ceisio newid fy isymwybod a’r ffordd dw i’n meddwl am bethau ers dros ddeugain mlynedd.
“Dw i wedi ceisio derbyn pethau’n well, deall pethau’n well, a bod yn fwy hunanymwybodol.
“Ces i fy magu ar sail agwedd mai ennill yw popeth, ac ychydig flynyddoedd yn ôl, pe bawb i heb ennill y sioe, byddwn i wedi bod mor siomedig ynof fi fy hun.
“Yn y dyddiau olaf cyn diwedd y sioe, roedd gen i hen ddigon o amser i fyfyrio ac eistedd yn ôl a meddwl am y daith roeddwn i wedi bod arni dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai dan deimlad wedyn.
“A wnes i feddwl, ‘Dw i’n gwneud yn iawn’.
“Dw i’n falch ohonof fi fy hun am y tro cyntaf ers amser maith.
“Doedd dim ots gen i a oeddwn i’n mynd i ennill, a bod yn onest.
“Fe ges i’r profiad, a ges i’r cyfle i ddangos i’r cyhoedd y person go iawn, ac fe wnes i adrodd fy stori.
“Dw i wedi gwneud ffrindiau gwych hefyd.
“Dw i’n newid bywydau pobol nawr, a dyna roeddwn i eisiau ei wneud.
“Y llynedd, fe wnes i gwrdd â’r dyn oedd wedi achub fy mywyd.
“Mae llawer o bethau wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf, ond dw i mewn lle da nawr.
“Cymerodd hi ugain mlynedd, ond dw i’n gryf yn feddyliol, ac yn gryf yn gorfforol, ac roeddwn i’n gwybod na fyddai unrhyw beth yn gallu fy nhorri i yn y castell.
“Gêm yw hi.
“Fe wnes i ddweud wrtha i fy hun droeon, ‘Paid colli dy dymer, pwylla!’
“Fe wnes i dipyn o ddarllen ac astudio ymddygiad dynol, felly dw i’n deall emosiynau, felly wnes i dynnu emosiwn allan o’r peth a mynd ar sail rhesymeg.
“Os ydych chi mewn lle da yn feddyliol a’ch bod chi’n ddigon cryf, ewch amdani!”