A hithau’n Wythnos Ymwybyddiaeth Byddardod yr wythnos hon (Mai 6-12), mae Dorothy Miles yn cael ei chofio gyda datganiad arbennig yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Mai 8).
Mae Julie Morgan, yr Aelod Llafur o’r Senedd, yn gwneud datganiad 90 eiliad am y digwyddiad gafodd ei gynnal yn y Rhyl yn ddiweddar i ddadorchuddio plac porffor i’r bardd, llenor, ymgyrchydd a pherfformiwr b/Byddar.
Mae croeso i bobl f/Fyddar fynychu yn yr oriel gyhoeddus, ac mae cyfieithydd BSL yno ac mae modd gwylio’r sesiwn ar y teledu.
Pwy oedd Dorothy Miles?
Roedd Dorothy Miles yn dod o Gwernaffield-y-waun ger y Wyddgrug, a chafodd ei magu yn y Rhyl.
Daeth yn fyddar wedi cyfnod o salwch yn wyth mlwydd oed, ac felly cafodd ei haddysg fel myfyriwr preswyl mewn ysgolion i’r byddar ym Manceinion a Burgess Hill yng Ngorllewin Sussex.
Cafodd ysgoloriaeth i fynd i Brifysgol Gallaudet i’r b/Byddar yn America, lle bu’n astudio fel myfyriwr rhwng 1957 a 1961.
Aeth yn ei blaen i fod yn llwyddiannus iawn ym myd celfyddydau b/Byddar, gan wneud cyfraniad sylweddol ym meysydd llenyddiaeth a pherfformio.
Cyfunodd ei hieithoedd – Saesneg, BSL, ac ASL – yn ei gwaith creadigol, a chaiff ei hadnabod heddiw fel sylfaenydd barddoniaeth ieithoedd arwyddion cyfoes yn fyd-eang.
Roedd hi’n byw â’r cyflwr anhwylder deubegwn a chafodd byliau o iselder, gan dreulio cyfnodau niferus mewn ysbytai iechyd meddwl.
Bu farw yn 1993, gyda hunanladdiad yn cael ei nodi mewn dyfarniad yn dilyn ei chwest.
Placiau Porffor
Mae tua 250 o blaciau glas erbyn hyn yn coffáu unigolion nodedig yng Nghymru, ond prin yw’r placiau sy’n dathlu menywod.
Er mwyn mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb y cafodd y Placiau Porffor eu sefydlu, ac i roi lle blaenllaw i fenywod yn ein hanes.
Mae’r lliw porffor yn gysylltiedig â’r Swffragetiaid.
Cafodd cynllun y Placiau Porffor ei lansio gan griw o wirfoddolwyr ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod yn 2017.
Plac Dorothy Miles ar ei chyn-gartref yn Rhyl yw’r unfed plac ar bymtheg plac i gael ei osod, a hynny ar Ebrill 26 eleni.
Er bod Dorothy Miles yn adnabyddus yn fyd-eang ymysg pobol fyddar, ni fu llawer o ymwybyddiaeth ohoni ymysg pobol yng Nghymru, ac felly mae gosod ei phlac wedi codi ymwybyddiaeth ohoni, gan gynnwys ymysg y Pwyllgor Placiau Porffor.
Cafodd cyflwyniadau eu rhoi cyn dadorchuddio’r plac, gan gynnwys cyflwyniad gan Sue Essex, cadeirydd Placiau Porffor Cymru.
Liz Deverill, nith Dorothy Miles, a Jacquie McAlpine, Maer y Rhyl, fu’n dadorchuddio’r plac.
Cyflwyniadau a gwaddol
Daeth criw sylweddol o bobol fyddar i ddathlu’r achlysur, gyda sawl un yn rhannu storïau personol wrth dalu teyrnged cyn i’r plac gael ei ddadorchuddio.
Esboniodd Rhodri Clark o HistoryPoints hanes gosod cod QR ar y tŷ i bobol gael mwy o hanes Dorothy Miles, a siaradodd David Duller am sgwrs gafodd e a Dorothy Miles am Gymru, a’r ffaith ei bod hi’n dod o’r Rhyl yn wreiddiol.
A hithau’n fardd ieithoedd arwyddo (BSL ac ASL) ac yn ymgyrchydd dros yr ieithoedd hyn, ysgrifennodd hi gerddi ar y pwnc a’u perfformio. Yn eu plith mae ‘Language for the eye’
Mae’r ffilm Dot yn trafod ei bywyd, ac mae modd ei gwylio ar y wefan BSL Zone.
Mae hi’n ysbrydoliaeth i bobol f/Fyddar a’u teuluoedd, a’r sawl sy’n colli eu clyw, yng Nghymru a thu hwnt.