Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Byddardod yn dirwyn i ben, a ninnau yng Nghymru newydd osod Plac Porffor i’r bardd o ferch f/Fyddar o’r Rhyl, Dorothy Miles, i ddathlu ei chyfraniad byd eang i’r celfyddydau, yn enwedig barddoniaeth iaith arwyddo.
Bu sôn amdanni a’r plac yn y Senedd, gyda Julie Morgan, yr Aelod Llafur o’r Senedd, yn gwneud datganiad 90 eiliad.
A bu eitem hefyd ar raglen HENO, wrth i ni ymfalchïo’n llawen yn ei chyfraniad unigryw, wedi’i siapio i raddau gan yr heriau a ddaw o fod yn f/Fyddar mewn byd sydd yn hanesyddol wedi tanbrisio profiadau pobol f/Fyddar, ac hefyd ei phrofiadau o fyw hefo anhwylder deubegwn.
Yna, daeth y newyddion fod gwyddonwyr a meddygon wedi dod o hyd i ‘iachâd’ fedrith ‘drwsio’ byddardod i rai sydd â’r cyflwr genetig ‘auditory neuropathy’, cyflwr gaiff ei achosi gan Darcy ar ysgogiadau nerfol sy’n teithio o’r glust fewnol i’r ymennydd.
Mae’n wyrth a ddaw o ganlyniad i waith ymchwil arloesol, does dim dwywaith amdani, ond mae hi hefyd yn gymhleth ac yn teimlo braidd yn chwithig o ran amseru, o ystyried y persbectif mae’n cyfleu o pobol f/Fyddar a’u statws yn ein cymdeithas modern.
Byddardod a Byddaroliaeth
Mae pobol fyddar wastad wedi bodoli ac, i rai ohonom, mae’n rhan annatod o’n genynnau a’n hetifddiaeth. Tra bod rhai yn dod yn fyddar trwy ddamwain neu salwch, mae teuluoedd, fel fy un i, lle mae yna bobol fyddar ym mhob cenhedlaeth ac, heb ymyrraeth feddygol, fel’na fydd hi ym mhob cenhedlaeth gennym.
Mae gan fy nheulu i Syndrom Waardenburg Math 1, ac un o’r nodweddion yw gwahanol raddau o golli clyw. Mae fy modryb, Brenda Hopwood, yn gwbl fyddar er pan oedd hi yn hogan fach, ac mae hi’n rhan o’r Diwylliant Byddar ac yn siaradwr British Sign Language (BSL) brodorol.
Cefais i fy ngeni yn clywed, ond wrth i mi golli pigment yn fy ngwallt, croen, llygaid, a cochlea, dw innau y nawr, fel fy nhad gynt, yn colli fy nghlyw yn raddol. Gan nad ydw i wedi cael fy magu na fy nhrochi (hyd yma) yn y diwylliant Byddar, rwy’ dal yn ddiwyllianol ‘Hearing’.
Wrth i mi straffaglu â’r heriau o barhau hefo fy mynediad at ddiwylliant ‘hearing’, a cheisio mynediad i’r diwylliant Byddar, dw i’n cael y profiad ‘trothwyol’ (liminal) o fod yn ‘Inter Mundos’, rhwng dau fyd, a ddim yn rhan o’r un o’r ddau mewn ffordd sy’n gyffyrddus.
Yn ddigon ysmala, rwy’ wedi gallu troi’r profiadau hyn ar eu pennau, a chreu fy nghelf arloesol fy hun ohonyn nhw, gan gynnwys cyfrol o farddoniaeth rydd. Yn anffodus, mae’r gwaith wrth gwrs yn niche iawn, ac rwyf wedi methu ffeindio cyhoeddwr, ond gyda’r dyfalbarhad sy’n nodweddiadol o bobol ‘niwroddargyfeiriol’, rwy’ am ei hunan-gyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn hon – gyda fy ngwaith celf arloesol drwyddi draw ac ar y clawr.
Ac mae yna gerdd yn fy nghyfrol gyfredol, A Goareig Patchwork Quilt, sy’n synfyfyrio ar y profiad o fod yn y Deaf Club yn Wrecsam hefo fy modryb, yn gwylio sgyrsiau braf trwy gyfrwng BSL, ac yn teimlo llawenydd yn y profiad agos-atoch, gan edrych ymlaen at allu bod yn rhan o’r byd hwn. Rhan o’r Byddaroliaeth (Deafhood).
Ond beth felly a olyga ‘gene therapy’ i bobol Fyddarclywed ar hyd y sbectrwm?
Ymateb y gymuned Fyddar
Mae erthygl wych ar y blog Byddar ‘The Limping Chicken’ heddiw, sy’n trafod ymateb y British Deaf Associaton, ynghyd ag unigolion byddar blaengar, megis yr actores Rose Ayling-Ellis – hi wnaeth swyno pawb hefo’i ‘eiliad dawel’ ar y rhaglen Strictly Come Dancing.
Mae’r BDA wedi ymateb trwy wrthod y model meddygol a dweud, ‘Dim byd amdanom ni, hebddon ni’; mae angen trafod goblygiadau y math yma o ymyrraeth feddygol yn ofalus.
Dywed Rose Ayling-Ellis fod ei hymateb cyntaf yn un o deimlo’n “ofnus ac yn dorcalonnus”.
Mewn neges hir ar ei chyfrif Instagram, mae Rose yn codi cwestiynau.
“Dychmygwch fyd lle mae pawb yn ‘normal’. Beth ddaw o’n stori, ein diwylliant, a’n hunaniaeth? Ai ni fydd y genhedlaeth gyda’r olaf, a fyddwn ni’n bennu mewn amgueddfa yn rhywle?”
“Mae pobol fyddar wedi bodoli erioed. Pwy sy’n penderfynu nad yw eu bywydau’n werth eu hintegreiddio yn y gymdeithas? Pwy sy’n cymryd yn ganiataol ein bod ni eisiau cael ein ‘trwsio’? Lle fydden nhw’n tynnu’r llinell?
Af fi ymlaen i godi nifer o faterion diddorol sydd wedi’u trafod gan y gymuned f/Fyddar ers amser maith, ond nid yn brif ffrwd fel hyn; diddorol fydd gweld ffrwyth y trafodaethau byd-eang yn sgil y datblygiadau yma.
Penbleth bersonol
Ac felly, daw penbleth newydd i mi: os daw cyfle i “drowsily” fy nghlyw neu fyddardod innau (yn dibynnu adult mae fy nghyflwr wedi datblygu erbyn hynny) a fyddwn yn mynd amdani? Does dim ateb gen i ar y foment, dim ond nifer o ffactorau i’w hystyried:
Dw i yn ddiwylliannol yn ‘clywed’, a hyd yn oed os af fi ati o ddifri rŵan i drochi fy hun yn niwylliant a iaith y gymuned Fyddar, mi fydd yn dipyn o her cyrraedd pwynt lle byddwn yn rhu ac yn cael fy nerbyn yno; ac eto, teimlaf yr atyniad o fod yn un o ‘bobol y llygad’, fel fy mod yn barod yn raddol i drawsnewid.
Dwi’n gweld gwerth mewn Diwylliant Byddar. Dwi eisiau ei fwynhau, a’i ddathlu, a chyfrannu ato, gan dynnu ar fy stori unigryw i na fyddai wedi bodoli heb golli clyw genynnol.
Ac mae yna risg, on’d oes, i unrhyw lawdriniaeth. A dw innau yn ‘niwroddargyfeiriol’, gydag anableddau corfforol a heriau iechyd o ganlyniad, i raddau, i’r feddyginiaeth gymerais i atal trawiadau.
Ac, fel ffan o wyddonias/ffuglen wyddonol, ac fel un sydd wedi gweld y ffilm I am Legend, mae gen i ofn braidd sut y gall pethau droi’n annisgwyl o arswydus!
Ond dyma ni, ynte. Mae bywyd yn llawn cymhlethdodau, a synfyfyrion unigolyn sydd â’r gallu cyfyng i ddeall amrywiaeth o gymhlethdodau sydd yma. A gyda’r caveat hwnnw yn ei le, edrychaf tua’r gorwel trwy lygaid gwyddionas, gan ddweud: “Engage!”