Gobaith ffair lyfrau ail law sy’n cael ei chynnal ers chwarter canrif ydy gallu hybu’r arfer o gasglu llyfrau.
Bydd Ffair Lyfrau’r Casglwr yn cael ei chynnal yn Aberystwyth ddydd Sadwrn (Mai 11), a bydd tua phymtheg o stondinwyr yno’n gwerthu miloedd o lyfrau.
Cymdeithas Bob Owen, sy’n cyhoeddi cylchgrawn Y Casglwr, sy’n gyfrifol am y ffair, a bydd yr elw’n mynd tuag ar weithgareddau’r gymdeithas a chyhoeddi’r cylchgrawn.
Cafodd y ffair gyntaf ei chynnal yn y Bala tua diwedd y 1990au, ac mae Cymdeithas Bob Owen wedi cynnal ffeiriau mewn rhannau eraill o Gymru, megis Sir Fôn, yn y gorffennol.
Gwyn Davies sydd wedi bod yn trefnu’r ffair yn Aberystwyth, sy’n cael ei chynnal yn y Morlan, ers dros ugain mlynedd.
“Ffordd o ennyn diddordeb mewn llyfrau ail law a hynafiaethol ydy o, ac mae’r elw yn mynd at Gymdeithas Bob Owen, sy’n cyhoeddi’r Casglwr ac yn gwneud bob math o weithgareddau fel dyddiau agored efo darlithwyr, teithiau i lefydd hanesyddol yng Nghymru,” meddai wrth golwg360.
Mae cylchgrawn Y Casglwr yn cael ei gyhoeddi deirgwaith y flwyddyn, ac yn cynnwys deunydd yn ymwneud â llenyddiaeth a deunydd diwylliannol Cymraeg a Chymreig yn bennaf.
Bydd y ffair yn cynnwys stondinwyr sydd gan siopau eu hunain, ynghyd â chasglwyr sydd sy’n dymuno gwagio rywfaint ar eu casgliadau.
“Mae yna rhwng deuddeg a phymtheg o stondinwyr, yn dod o bob rhan o Gymru ac yn gwerthu llyfrau o bob math – llyfrau o £1 yr un i werth cannoedd o bunnoedd. Llyfrau’n ymwneud â hanes lleol, mapiau, nofelau, deunydd llenyddol, llyfrau plant – mae’r rheiny’n boblogaidd iawn, mae pobol yn casglu llyfrau plant – a llyfrau mwy academaidd.
“Os ti’n cyfrif bod yna bymtheg o stondinwyr yn mynd yno, mi fydd yna filoedd ar filoedd o lyfrau ar werth yno.”
‘Hybu casglu llyfrau’
Er ei bod hi’n bosib bod nifer y casglwyr llyfrau sydd gan gasgliadau mawr wedi gostwng dros y blynyddoedd diweddar, mae diddordeb yn parhau ymysg y genhedlaeth iau, yn ôl Gwyn Davies.
“Mae yna lai o gasglwyr, ond ar y llaw arall dw i’n cael dim problem cael pobol i lenwi neuadd efo llyfrwerthwyr,” meddai wedyn.
“Mae yna rai pethau wedi newid, mae pethau academaidd, testunau ac ati, mae’r we a digido wedi gwneud gwahaniaeth – mae yna lot o bethau ar gael i bobol yn rhad ac am ddim ar y we bellach.
“Ond mae rhai o’r pethau hynafiaethol a llyfrau gweisg preifat, fel Gwasg Gregynog ac yn y blaen, mae pobol yn hoff iawn o gael llyfrau o hyd.
“Ond y bobol oedd gan gasgliadau mawr, efallai bod rheiny yn lleihau.
“Yn Aberystwyth, fydd yna bethau gwerthfawr yno ac mi fydd yna bethau rhad hefyd. Rhywbeth ar ddant bawb.
“Pan rydyn ni’n mynd i’r Eisteddfod ac yn y blaen [gyda stondin lyfrau ail law], mae gen ti dy hen gasglwyr, ond ar y llaw arall, rwyt ti yn gweld lot o bobol ifanc yn cymryd diddordeb hefyd.
“Hybu, dyna ydy bwriad y ffeiriau a’r Casglwr – hybu casglu llyfrau ymysg pobol iau.”
Bydd y ffair lyfrau ar agor rhwng 10yb a 4yp ddydd Sadwrn, gyda mynediad yn £1 i oedolion ac am ddim i blant.