Heidiodd pobol draw i Grymych ddydd Sadwrn (Mai 4), wrth i Ŵyl Fel ‘Na Mai ddychwelyd i’r pentref am y drydedd flwyddyn.

Wedi’i leoli ym Mharc Gwynfryn, roedd y digwyddiad yn fwy poblogaidd nag erioed eleni, gyda thros 1,500 o bobol wedi mynychu.

Roedd dau lwyfan yn yr ŵyl, a bu perfformiadau gan fandiau ac artistiaid unigol fel HMS Morris, Al Lewis, Fleur De Lys, ac Alffa.

Yn ogystal, fe wnaeth Jess, y band roc/pop o Aberteifi fu’n boblogaidd drwy gydol y 1990au, ailffurfio ar gyfer yr ŵyl.

Dyma ychydig o luniau o’r diwrnod gan Stuart Ladd…